Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 54,916 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Focșani |
Nawddsant | Lawrens |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Fetropolitan Rhufain |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 68.65 km² |
Uwch y môr | 235 ±1 metr |
Gerllaw | Aniene |
Yn ffinio gyda | Castel Madama, Guidonia Montecelio, Rhufain, San Gregorio da Sassola, Vicovaro, Marcellina, San Polo dei Cavalieri |
Cyfesurynnau | 41.9667°N 12.8°E |
Cod post | 00010, 00011, 00019 |
Tref a chymuned (comune) yn rhanbarth Lazio, yr Eidal yw Tivoli, Tibur yn y cyfnod clasurol. Saif tua 30 km o ddinas Rhufain, ger rhaeadr lle mae Afon Aniene yn disgyn o'r bryniau.
Yn y cyfnod Etrwscaidd, roedd Tibur yn eiddo'r Sabiniaid, ac yn gatref Sibyl Tibur. Gwnaeth Tibur gynghrair ar Galiaid yn 361 CC, ond gorchfygwyd y dref gan y Rhufeiniaid yn 338 CC. Rhoddwyd dinasyddiaeth Rufeinig i'r trigolion yn 90 CC. Daeth yn fangre boblogaidd i Rufeiniaid cefnog adeiladu fila; roedd gan Maecenas ac Augustus fila yma, ac roedd gan y bardd Horace un lai. Yr enwocaf yw'r Villa Adriana, a adeiladwyd gan yr ymerawdwr Hadrian, sy'n parhau mewn cyflwr da ac a enwyd yn Safle Treftadaeth y Byd. Bu Zenobia, brenhines Palmyra hefyd yn byw mewn fila yma wedi iddi gael ei gorchfygu gan yr ymerawdwr Aurelian yn 272.
Yn 547, yn ystod y rhyfel yn erbyn y Gothiaid, adeiladwyd amddiffynfeydd gan y cadfridog Bysantaidd Belisarius, ond yn ddiweddarach dinistriwyd y dref gan fyddin Totila. Yn y Canol Oesoedd by ymgiprys rhwng Tivoli a Rhufain am reolaeth dros ganolbarth Lazio.
Roedd Tivoli yn parhau yn boblogaidd fel safle i adeiladu filas, ac yn 1549 dechreuwud adeiladu'r Villa d'Este gan Pirro Ligorio ar gyfer y Cardinal Ippolito II d'Este. Enwyd y Villa d'Este hefyd yn Safle Treftadaeth y Byd. Yn 1835 adeiladodd Pab Gregori XVI y Villa Gregoriana yma.
Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 65,999.