Math | metropolitan prefecture, capital of Japan, cyrchfan i dwristiaid, metropolis, dinas global, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, dinas fawr, taleithiau Japan, metropolis, canolfan ariannol |
---|---|
Enwyd ar ôl | prifddinas, dwyrain |
Prifddinas | Shinjuku |
Poblogaeth | 14,264,798 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Tokyo Metropolitan Song |
Pennaeth llywodraeth | Yuriko Koike |
Cylchfa amser | amser safonol Japan |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Minami-Kantō, Ardal Tokyo Fwyaf |
Sir | Japan |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 2,194.05 km² |
Uwch y môr | 6 metr |
Gerllaw | Bae Tokyo |
Yn ffinio gyda | Chiba, Saitama, Yamanashi, Kanagawa |
Cyfesurynnau | 35.6894°N 139.6917°E |
JP-13 | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Metropolitan Tokyo |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Metropolitan Tokyo |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Llywodraethwr Tokyo |
Pennaeth y Llywodraeth | Yuriko Koike |
Prifddinas, talaith a dinas fwyaf Japan yw Tōkyō ( ynganiad Japaneg , 東京, Tokyo neu Tocio yn Gymraeg). Fe'i lleolir yn nwyrain canolbarth ynys Honshu, ar lan y Cefnfor Tawel. Daw rhannau helaeth o daleithiau cyfagos Tokyo ynghyd i ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 37,900,000 (2016)[1][2]. Dyma, felly, dinas fwyaf poblog y byd. Er mai ffigwr llai o tua 14,264,798 (2022) miliwn o bobl sy'n byw yn Tokyo ei hun fe ddaw miloedd o bobl yno i weithio neu i astudio yn ystod y dydd.[3] Mae'r dref yn ganolfan wleidyddol, economeg, diwylliannol ac academaidd i'r wlad ac mae'r Tenno, Ymerawdwr Japan, yn byw yng nghanol y ddinas.
Yn wreiddiol yn bentref pysgota, o'r enw Edo, daeth yn ganolfan wleidyddol amlwg ym 1603, pan ddaeth yn sedd y siogyniaeth[4] Tokugawa. Erbyn canol y 18g, roedd Edo yn un o'r dinasoedd mwyaf poblog yn y byd gyda dros filiwn o bobl.[5] Yn dilyn diwedd y siogyniaeth ym 1868, symudwyd y brifddinas ymerodrol yn Kyoto yma, ac ailenwyd hi'n 'Tokyo' (yn llythrennol: "prifddinas ddwyreiniol").
Cafodd Tokyo ei difrodi gan Ddaeargryn Great Kantō yn 1923, ac eto gan gyrchoedd bomio’r Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan ddechrau yn y 1950au; ailadeiladwyd ac ehangwyd y ddinas yn gyflym, gan fynd ymlaen i arwain adferiad economaidd Japan ar ôl y rhyfel. Ers 1943, mae Llywodraeth Fetropolitan Tokyo wedi gweinyddu 23 ward arbennig y dalaith ('Dinas Tokyo' gynt), amryw drefi gwelyau yn yr ardal orllewinol, a dwy gadwyn o ynysoedd anghysbell.
Tokyo yw'r economi drefol fwyaf yn y byd yn ôl cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP), ac mae'n cael ei chategoreiddio fel dinas Alpha + gan y Rhwydwaith Ymchwil a Dinasoedd y Byd (World Cities Research Network). Rhan o ranbarth diwydiannol sy'n cynnwys dinasoedd Yokohama, Kawasaki, a Chiba, Tokyo yw prif ganolfan busnes a chyllid Japan. Yn 2019, roedd yno 36 o gwmnïau Fortune Global 500.[6] Yn 2020, roedd yn bedwerydd ar y Mynegai Canolfannau Ariannol Byd-eang, y tu ôl i Ddinas Efrog Newydd, Llundain, a Shanghai.[7] Yn Tokyo mae tŵr talaf yn y byd sef y 'Tokyo Skytree' a chyfleuster dargyfeirio dŵr llifogydd tanddaearol mwya'r byd: MAOUDC.[8] Llinell Metro Ginza Tokyo yw'r llinell metro danddaearol hynaf yn Nwyrain Asia (1927).[9]
|access-date=
(help)