Tomos o Acwin | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1225 ![]() Roccasecca ![]() |
Bu farw | 7 Mawrth 1274 ![]() Abaty Fossanova ![]() |
Man preswyl | Aquino ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, athro cadeiriol, offeiriad Catholig, athronydd, llenor, diwinydd Catholig, ffrier, theology teacher ![]() |
Swydd | athro cadeiriol ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Summa Theologica, Summa contra Gentiles, De regimine principum, Quinque viae ![]() |
Prif ddylanwad | Boethius, Maimonides, Cicero, Al-Kindi, Johannes Scotus Eriugena, Averroes, Anselm o Gaergaint, Albertus Magnus, Avicenna, Awstin o Hippo, Platon, Aristoteles, yr Apostol Paul, Al-Ghazali, Pab Grigor I ![]() |
Dydd gŵyl | 28 Ionawr, 7 Mawrth, Catholigiaeth ![]() |
Mudiad | Tomistiaeth, Rhyfel cyfiawn, Ysgolaeth ![]() |
Tad | Landulphe d'Aquino ![]() |
Offeiriad, athronydd, diwinydd a sant o'r Eidal oedd Thomas Aquinas, O.P. (hefyd Thomas o Aquin neu Acwin neu Aquino; c. 1225 - 7 Mawrth 1274). Oherwydd ei amlygrwydd fel diwinydd, adwaenir ef hefyd fel y Doctor Angelicus, Doctor Universalis a Doctor Communis. Ystyria'r Eglwys Gatholig ef fel yr athro pwysicaf i'r rhai sy'n astudio i fynd yn offeiriaid. Mae'n fwyaf enwog am ei weithiau Summa Theologica a Summa Contra Gentiles. Ef hefyd ysgrifennodd yr emyn Sacris Solemniis sy'n cynnwys Bara Angylion Duw.