Math | traffordd |
---|---|
Cysylltir gyda | traffordd M25, traffordd M27 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Surrey, Hampshire |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.274°N 0.9477°W |
Hyd | 94.3 cilometr |
Traffordd yn Lloegr yw'r M3 sy'n ymestyn i gyfeiriad de-orllewinol o Sunbury-on-Thames, Surrey, i Eastleigh, Hampshire; pellter o tua 59 milltir (95 km). Mae'r ffordd yn cynnwys Aldershot, Basingstoke a Chaerwynt. Mae'n dod i ben ar ei chyffordd â thraffordd yr M27, 4 milltir i'r gogledd o ganol dinas Southampton.
Agorwyd y draffordd fesul cam rhwng 1971 a 1995. Denodd camau olaf y gwaith adeiladu wrthwynebiad gan ymgyrchoedd amgylcheddol ledled Prydain oherwydd y drychfa fawr drwy goed Twyford Down; cynhaliwyd nifer o brotestiadau ffyrdd a arweiniodd at oedi cyn ei agor.