Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Trawsblannu organau

Trawsblannu organau
Enghraifft o:surgical procedure type Edit this on Wikidata
Mathsurgical operation, llawdriniaeth, transfer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Trawsblannu organau yw'r llawdriniaeth meddygol o symud un neu fwy o organau anifail neu ddyn o'r rhoddwr i'r derbynnydd, fel arfer gan fod organ y derbynydd yn ddiffygiol. Ystyrir fod trawsblannu meinwe hefyd yn 'drawsblannu organ'. Mae trawsblannu organau'n un o'r meysydd mwyaf blaengar a chynhyrfus o fewn meddygaeth, yn enwedig y defnydd o had gelloedd a'r frwydr yn erbyn imiwnedd y corff sydd, yn aml, yn dechrau ymladd yn erbyn yr organ newydd, gan ei wrthod, fel pe tae'n germ estron.[1] Mewn rhai gwledydd mae prynu a gwerthu organau ar y farchnad ddu yn broblem enfawr.[2]

Mae'n bosibl i'r rhoddwr a'r derbyniwr fod yr un person e.e. gellir cadw had gelloedd person sy'n dioddef o lwcimia mewn labordy, dileu'r hen gelloedd y gwaed drwy radiotherapi a cimotherapi ac yna trawsblannu'r celloedd a gadwyd yn ôl i'r un person. Gelwir hyn yn autograft a'r trawsblaniadau rhwng dau berson gwahanol yn allograft. Gall trawsblaniad o'r math hwn (allograft) olygu fod y rhoddwr yn fyw, neu wedi marw, a gall yr organ neu'r feinwe gael ei gynaeafu (neu ei dynnu) o gorff y person hyd at 24 awr wedi i'w galon beidio a churo.[3] Mae Cymru'n wlad blaenllaw yn y maes hwn, gan i Lywodraeth Cymru basio bil (Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013) sy'n caniatáu i ysbytu ddefnyddio organau person sydd newydd farw heb ei ganiatâd ysgrifenedig; caniateir, hefyd optio allan o'r drefn hon, cyn i'r person farw. Daeth y Ddeddf hon i rym ar 1 Rhagfyr 2015.

Y prif organau dynol

Heb drawsblaniadau organau, byddai llawer o bobl yn marw. Gelwir y weithred o drawsblannu organau o un rhywogaeth i rywogaeth arall yn "Senotrawsblaniad".[4]

Yr organau a ddefnyddir amlaf mewn trawsblaniadau yw arennau, y galon, yr iau, yr ysgyfaint, y pancreas a'r coluddyn bach.

Mae rhoi meinweoedd yn golygu defnyddio celloedd corff iach fel cornbilennau, croen, esgyrn, gewynnau, cartilag a falfiau'r galon. Mae esgyrn, tendonau a chartilag yn cael eu defnyddio ar gyfer ailadeiladu ar ôl anaf neu yn ystod llawdriniaeth i osod cymal newydd. Mae impiadau (neu grafft) croen yn cael eu defnyddio i drin pobl â llosgiadau difrifol.

  1. Frohn C, Fricke L, Puchta JC, Kirchner H (February 2001). "The effect of HLA-C matching on acute renal transplant rejection". Nephrol. Dial. Transplant. 16 (2): 355–60. doi:10.1093/ndt/16.2.355. PMID 11158412. http://ndt.oxfordjournals.org/cgi/content/full/16/2/355.
  2. Gweler am ragor o fanylion; Gwefan WHO; Teitl y rhan berthnasol: Bulletin of the World Health Organization; Organ trafficking and transplantation pose new challenges; adalwyd 22 Tachwedd 2015.
  3. Manara, A. R.; Murphy, P. G.; O'Callaghan, G. (2011). "Donation after circulatory death". British Journal of Anaesthesia 108: i108–i121. doi:10.1093/bja/aer357. PMID 22194426.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Archifwyd 2016-03-10 yn y Peiriant Wayback Teitl y darn dan sylw: Rhoi organau; Nodyn: Yn 2006, diffiniodd yr Adran Iechyd senotrawsblaniad fel: "any procedure that involves the transplantation, implantation, or infusion into a human recipient of either live tissues or organs retrieved from animals, or, human body fluids, cells, tissue or organs that have undergone ex vivo contact with live non-human animal cells tissues or organs."; adalwyd 22 Tachwedd 2015

Previous Page Next Page