Tudwal | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 490 ![]() Dinbych-y-pysgod ![]() |
Bu farw | 564 ![]() Landreger ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | offeiriad ![]() |
Swydd | esgob, abad ![]() |
Dydd gŵyl | 1 Rhagfyr ![]() |
Sant o Lydaw o hanner cyntaf y 6g oedd Tudwal (Lladin: Tudgualus, Llydaweg Tudgual). Yn ôl traddodiad bu farw yn 564. Mae'n un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw. Dethlir ei ddydd gŵyl ar y 1af o Ragfyr.
Dywedir ei fod yn fab i Hywel Mawr (Hoel), un o frenhinoedd Llydaw. Teithiodd i Iwerddon i astudio, cyn ymsefydlu fel meudwy ar y lleiaf o'r ddwy ynys a elwir yn awr yn Ynysoedd Tudwal ger Penrhyn Llŷn. Gellir gweld olion priordy ar y lleiaf o'r ddwy ynys, sydd yn ôl traddodiad ar safle clas Tudwal. Mae hefyd draddodiad ei fod wedi treulio cyfnod yn Llanilltud Fawr, a bod sant Curig yn un o'i ddisgyblion yno.
Yn ddiweddarach dychwelodd i Lydaw a sefydlu mynachlog dan nawdd ei gefnder, Deroch, brenin Domnonia. Dywedir iddo gael ei wneud yn esgob Tréguier ar anogaeth Childebert I, brenin y Ffranciaid. Ei ddydd gwylmabsant yw 1 Rhagfyr. Dywedir i'w greiriau gael eu trosglwyddo i Laval, Mayenne, Ffrainc yn 870 neu 878.