Term am aelod o deulu brenhinol yw Tywysog. Mae sawl ystyr wahanol i'r gair; yn gyffredinol mae'n cyfateb i'r Lladin Princeps a'r geiriau a darddodd o'r Lladin mewn ieithoedd eraill. Yn y cyfnod modern, y defnydd arferol yw fel enw ar fab i frenin, neu fel enw ar deyrn yr ystyrir fod ei safle ychydig yn is na safle brenin, ac sy'n rheoli Tywysogaeth. Gall hefyd fod yn enw cyffredinol ar deyrn o unrhyw fath, er enghraifft yn llyfr Niccolò Machiavelli, Y Tywysog. Yn hanes Cymru, "tywysog", neu princeps mewn dogfennau Lladin, oedd y teitl arferol a ddefnyddid gan deyrnoedd o thua chanol y 12g ymlaen. Yng Nheyrnas Gwynedd, er enghraifft, defnyddiai Gruffudd ap Cynan y teitl "brenin". Dyma'r teitl a ddefnyddiaid ei fab, Owain Gwynedd, ar y cychwyn hefyd, ond tua 1157 newidiodd i ddefnyddio'r teitl "tywysog", a dyma'r gair a ddefnyddid gan deyrnoedd Gwynedd o hynny ymlaen. Dyma'r teitl a ddefnyddiai Rhys ap Gruffudd yn Neheubarth hefyd fel rheol. Ond mae ystyr y gair Cymraeg 'tywysog' fymryn yn wahanol i ystyr princeps; 'rhywun sy'n tywys', h.y. 'un sy'n arwain eraill' yw ystyr lythrennol y gair Cymraeg. Ym marddoniaeth llys y cyfnod roedd y teitlau traddodiadol fel 'brenin' yn cael eu defnyddio o hyd. Yn ystod cyfnod Gweriniaeth Rhufain, defnyddid princeps am arweinydd y Senedd. Pan ddaeth Augustus yn rheolwr ac ymerawdwr cyntaf Rhufain, dewisodd ddefnyddio'r teitl princeps i ddisgrifio ei safle yn hytrach nag imperator.