Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Tywysogaeth Catalwnia

Mae'r erthygl yma yn trafod Tywysogaeth hanesyddol Catalwnia. Am y gynuned ymreolaethol bresennol, gweler Catalwnia.
Baner Catalwnia

Tywysogaeth Catalwnia (Catalaneg: Principat de Catalunya; Sbaeneg: Principado de Cataluña) yw tiriogaeth hanesyddol Catalwnia, y rhan fwyaf yn yr hyn sy'n awr yn ogledd-ddwyrain Sbaen ond gyda rhan hefyd yn ne Ffrainc.

Wedi diwedd y cyfnod Rhufeinig, gorchfygwyd y tiriogaethau hyn gan y Fisigothiaid, yna am gyfnod gan fyddinoedd Mwslimiaid al-Andalus. Wedi i'r Mwslimiaid gael eu gorchfygu gan Siarl Martel ym Mrwydr Tours yn 732, concrwyd y tiriogaethau yng ngogledd Catalwnia gan y Ffranciaid, a ffurfiodd Siarlymaen y Marca Hispanica, nifer o wladwriaethau bychain neu siroedd rhwng ymerodraeth y Ffranciaid ac al-Andalus. Roedd y rhain dan reolaeth Cownt Barcelona. Yn 987, gwrthododd Cownt Barcelona gydnabod y frenhinllin newydd ym mherson Hugh Capet, brenin Ffrainc, a daeth y Marca yn annibynnol ar y Ffranciaid i bob pwrpas. Yn 1137, daeth y dywysogaeth yn rhan o Goron Aragon, pan briododd Ramon Berenguer IV, Cownt Barcelona, a Petronila o Aragón.


Previous Page Next Page