Enghraifft o'r canlynol | sefydliad a sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig, aid agency, sefydliad rhyngwladol, sefydliad rhynglywodraethol, cwmni cynhyrchu |
---|---|
Rhan o | system y Cenhedloedd Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 1949 |
Pennaeth y sefydliad | Commissioner-General for United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East |
Rhiant sefydliad | Y Cenhedloedd Unedig |
Cynnyrch | addysg, gofal iechyd, social services, public works, microcredit, gwasanaeth brys |
Pencadlys | Amman, Dinas Gaza |
Gwefan | https://unrwa.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asiantaeth o'r Cenhedloedd Unedig yn y Lefant a sefydlwyd er mwyn rhoi cymorth i'r ffoaduriaid Palesteiniaid yn Llain Gaza, Y Lan Orllewinol, Gwlad Iorddonen, Libanus a Syria yw UNRWA (Cymraeg [answyddogol]: 'Yr Asiantaeth dros Gymorth a Gwaith i Ffoaduriaid Palesteinaidd yn y Dwyrain Agos'; Saesneg: UNRWA - United Nations Relief and Works Agency for Palestine Refugees in the Near East; Ffrangeg: L'Office de secours et de travaux des Nations unies pour les réfugiés de Palestine dans le Proche-Orient). Ei amcan yw ymateb i angenreidiau y ffoaduriaid hynny mewn meysydd fel iechyd, addysg, cymorth dyngarol a gwasanaethau cymdeithasol. Mae gan yr asiantaeth cyfrifoldeb i ofalu am dros 4.6 miliwn o ffoaduriaid Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol. John Ging yw pennaeth presennol UNRWA.
Creuwyd UNRWA ar ddiwedd y Rhyfel Arabaidd-Israelaidd cyntaf yn 1948 dan Benderfyniad 302 (IV) Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a basiwyd ar yr 8fed o Ragfyr 1949. Mae mandad UNRWA, a oedd i fod yn un dros dro yn unig yn wreiddiol, wedi cael ei adnewyddu sawl gwaith ers hynny gan Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig.
Mae gwaith UNRWA wedi bod yn arbennig o bwysig yn y gwersylloedd ffoaduriaid Palesteinaidd lle mae'r asiantaeth yn rhedeg nifer o ysgolion a gwasanaethau hanfodol eraill. Mae ganddi staff o 29,000, y rhan fwyaf ohonynt yn ffoaduriaid eu hunain, sy'n gweithio fel athrawon, meddygon, nyrsus a gweithwyr cymdeithasol yn y cymunedau neu'n helpu trefnu gwaith yr asiantaeth, sy'n golygu mai UNRWA yw asiantaeth fwyaf y Cenhedloedd Unedig yn y Dwyrain Canol.
Oherwydd ei safiad dros hawliau'r Palesteiniaid mae UNRWA wedi cael ei beirniadu gan rai llywodraethau yn y gorffennol. Ychydig iawn o arian caiff yr asiantaeth gan yr Unol Daleithiau, er enghraifft, mewn cymhariaeth â'r cymorth ariannol caiff Israel gan lywodraeth y wlad honno.
Pan ddechreuodd Israel ymosod ar Lain Gaza, ddiwedd Ionawr 2008, datganodd Comisiynydd Cyffredinol UNRWA, Karen AbuZayd, ei harswyd am y distryw a'i thristwch dwfn am y bywydau a gollwyd. Galwodd ar lywodraeth Israel i atal ei bomio yn Gaza.[1]