Enghraifft o'r canlynol | math o lywodraeth |
---|---|
Math | awtocratiaeth, unbennaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwleidyddiaeth |
---|
Safbwyntiau |
Geirfa |
Unbennaeth yw'r drefn wleidyddol lle llywodraethir gwlad gan unigolyn, yr unben, sy'n llywodraethu mewn dull awtocrataidd a heb ddod i rym trwy etifeddiaeth fel yn achos brenin.
Daw'r gair Cymraeg unben o'r elfennau 'un' + 'pen' (pennaeth, rheolwr). Mae'r gair cyfatebol yn y rhan fwyaf o iaeithoedd yn tarddu o'r gair Lladin dictatus. Tardda o gyfnod y Rhufain Hynafol pan roddwyd grym absoliwt i reolwr, dros dro yn unig, mewn argyfwng gwladol.
Defnyddir gwahanol deitlau gan yr unben i ddynodi ei safle, yn aml yn fersiynau o'r gair "arweinydd". Ymhlith yr esiamplau mwyaf adnabyddus o'r 20fed ganrif mae: