Tarddiad y gair Gwiriadrwydd (Saesneg: Verifiability) yw yr hyn sy'n wir, (ac felly hefyd gair gwiro - to check), sef sicrhau fod rhywbeth yn gywir.
Yn Wicipedia gall y defnyddwyr wiro fod y wybodaeth sydd ynddi yn dod o ffynonellau dibynadwy, diduedd. Daw'r wybodaeth o ffynonellau sydd wedi'u cyhoeddi, yn hytrach na barn ei golygyddion.
Mae Wicipedia'n dibynnu, felly, ar ffynonellau; y cwestiwn anodd ei ateb yw pa ffynonellau a pha wefannau, papurau sianeli a llyfrau sy'n ddibynadwy, yn gywir, yn ddiduedd? Yn 2017 cafwyd trafodaeth ar enwici (y Wicipedia Saesneg) pam na ddylid defnyddio rhai tabloids Saesneg; dilynwyd hyn gan drafodaeth debyg yn Gymraeg (gweler y Caffi), ond penderfynwyd mai'r golygydd unigol ddylai wiro a dethol y ffynonellau, yn hytrach na pholisi. Pan fod ffynonellau dibynadwy'n anghytuno â'i gilydd dylai'r erthygl barhau'n ddiduedd gan roi sylw i'r ddwy ochr, ond mwy o sylw i'r ochr a gredir fwyaf gan y ffynhonnell fwyaf arbenigol yn y pwnc dan sylw. Er enghraifft, dyweder fod 95% o wyddonwyr yn credu mai CO2 yw'r rheswm pam fod y Ddaear yn cynhesu, yna dylai'r rhan fwyaf o'r erthygl fod yn gosod eu hochr nhw o'r ddadl a rhan fechan i'r ochr arall. Nid yw barn 'swyddogol' gwledydd o angenrheidrwydd yn gywir, mwy nag yw barn papur newydd 'cenedlaethol'; yn aml, yn sacrosanct e.e. ers canrifoedd, mae'r Cymry wedi ystyried Llydaw yn wlad, ac nid yw'r ffaith fod Frainc' yn gwrthod defnyddio'r gair hwnnw yn dadwneud nac yn disodli ein hawl ni ar Wicipedia i alw Llydaw yn wlad.
Mae'n rhaid, felly, i bopeth oddi fewn i brif barth Wicipedia fod yn wiriadwy: boed erthyglau, rhestrau a thestun delweddau. Os oes testun yn cael ei herio, neu o bosib y caiff ei herio ryw bryd, yna dylid ychwanegu cyfeiriad at ffynhonnell er mwyn gwiro'r ffaith neu'r deunydd hwn. Os na all golygydd amddiffyn ei olygiad gyda ffynonnell ddibynadwy, addas yna dylid dileu'r wybodaeth honno. Mae hyn yn hynod o wir am bobl sy'n fyw.
Tri phrif polisi Wicipedia yw: Wicipedia:Safbwynt niwtral, Wicipedia:Dim ymchwil gwreiddiol a phwysigrwydd medru gwiro ffeithiau, sef gwiriadwyedd. Mae'r tri yma'n plethu drwy'i gilydd ac yn hanfodol i bob golygydd. Yn ychwanegol at hyn mae'r drwydded rhydd, agored sy'n cynnal y wybodaeth.