Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Wicipedia Cymraeg

Wicipedia Cymraeg
Logo'r Wicipedia Cymraeg
Ciplun o hafan y Wicipedia Cymraeg
Ciplun o hafan y Wicipedia Cymraeg ar 29 Hydref 2009, diwrnod ar ôl cyrraedd 25,000 o erthyglau
URL cy.wikipedia.org
Masnachol? Nac ydy
Math o wefan Gwyddoniadur arlein
Cofrestru Dewisol
Ieithoedd ar gael Cymraeg
Perchennog Sefydliad Wicimedia
Lansiwyd ar Gorffennaf 2003

Gwyddoniadur Cymraeg sy'n seiliedig ar Wikipedia yw'r Wicipedia Cymraeg, a lansiwyd yng Ngorffennaf 2003. Erbyn heddiw (Chwefror 2025), mae ganddi oddeutu 281,840 o erthyglau. Yn 2023 daeth y Gymraeg yn 45ed allan o 600 o ieithoed mwya'r byd ar restr World Language Barometer, yn bennaf oherwydd cryfder Wicipedia Cymraeg.[1]

Hon, mae'n debyg, yw'r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd o ran nifer y darllenwyr, gyda chyfartaledd o 840,000 o dudalennau'n cael eu hagor pob mis gan ddarllenwyr unigryw (nid bots).[2][3] Mae'r cyfan o gynnwys Wicipedia a'i chwiorydd (testun, delweddau, ffilm ayb) wedi'u cofrestru ar drwydded CC-BY-SA sy'n drwydded sy'n caniatáu defnydd masnachol ohoni, neu ar drwydded agored debyg ee gall cwmni cyfyngedig ddefnyddio'r cynnwys a'i werthu am elw, ar rai amodau.[4]

Ers 15 Rhagfyr 2016 ceir mwy o erthyglau ar ferched ar y Wicipedia Cymraeg nag o ddynion - yr iaith gyntaf (allan o dros 330) i gyrraedd hynny.[5] Yn ôl arolwg o ddarllenwyr Wicipedia a gyhoeddwyd yn Chwefror 2017 roedd mwy o'r darllenwyr o'r farn fod yr wybodaeth ar yr Wicipedia Cymraeg yn 'gywir ac yn ddibynadwy' na'r ganran fyd-eang a wnaed yn 2011 mewn arolwg o'r Wicipedia Saesneg.[6]

Yng Ngorffennaf 2013, yn dilyn ffurfio Wici Cymru, penodwyd Rheolwr Cymru, swydd lawn amser, wedi'i noddi gan Lywodraeth Cymru a Wicimedia DU, er mwyn hyfforddi golygyddion i wella ac ychwanegu i gynnwys Wicipedia. Yn Ionawr 2014 penodwyd Trefnydd Hyfforddi sgiliau wici, a'r un mis hysbysebodd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am Gydlynydd Wicipedia yn y cylchgrawn Golwg. Yn Ionawr 2015 penododd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Jason Evans yn Wicipediwr Preswyl llawn amser a phenodwyd ef yn Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell_Genedlaethol ym Medi 2017.[7][8][9]

Ers Haf 2016 mae Geiriadur Rhywogaethau Llên Natur ('Y Bywiadur') yn tynnu llif o dros 12,000 o ffotograffau o Gomin Wicimedia, drwy Wicidata, ac yn cynnwys dolen i dros 10,000 o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg.[10] Caiff Wicipedia hefyd ei rhestru fel adnodd Cymraeg ar wefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru[11] a'r BBC,[12][13] a chan borwr Mozilla Firefox.[14] Mae S4C yn awgrymu Wicipedia fel adnodd i isdeitlwyr Cymraeg y gellir ei defnyddio "gyda gofal".[15]

  1. World Language Barometer adalwyd 15 Tachwedd 2024
  2. (Saesneg) Morris, Carl (31 Gorffennaf 2012). Wales: Imagining the Welsh Language Web. GlobalVoices. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
  3. Gwefan Wikistats; adalwyd 25 Mawrth 2013
  4. Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 Unported License Gwefan Comin; adalwyd 12 Mai 2013.
  5. Blog Wikimedia UK adalwyd 3 Hydref 2017.
  6. Arolwg o ddarllenwyr y Wicipedia Cymraeg - Cam bach i Wici Cymru, cam ENFAWR i ddynoliaeth - Blog Wikimedia UK; adalwyd 3 Hydref 2017.
  7. Library of Wales with a birthday gift to Wikipedia Gwefan Wicimedia DU; Archifwyd 2020-11-27 yn y Peiriant Wayback adalwyd 20 Ionawr 2015
  8. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol, Cymru; enw'r blog: Wicipediwr i breswylio yn y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 20 Ionawr 2015
  9. Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol - blog; adalwyd 3 Hydref 2017.
  10. 'Bwletin Llên Natur', Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback Rhif 67, Medi 2013; top tudalen 2
  11.  Catalog e-Adnoddau: Wicipedia. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  12.  Gwybodaeth ar-lein a gwefannau rhannu a chydweithio. BBC Cymru. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  13.  C2 – Gwefannau eraill. BBC Radio Cymru (C2). Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  14.  Cychwyn Arni. Mozilla Firefox. Adalwyd ar 4 Medi 2012.
  15.  James, Heulwen L. (Chwefror 2008). Canllawiau S4C ar gyfer Isdeitlwyr yng Nghymru. S4C. Adalwyd ar 16 Medi 2012.

Previous Page Next Page