William Wycherley | |
---|---|
Ganwyd | 1640 Clive |
Bedyddiwyd | 8 Ebrill 1641 |
Bu farw | 31 Rhagfyr 1715 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, bardd |
Adnabyddus am | The Plain Dealer |
Priod | Letitia Robartes |
Dramodydd o Loegr oedd William Wycherley (1641 – 1 Ionawr 1716) a flodeuai yn ystod Oes yr Adferiad.
Ganwyd yn Clive ger yr Amwythig, yn fab i stiward Marcwis Caerwynt. Aeth i gael ei addysg yn Ffrainc yn 15 oed, ac yno fe drodd yn Gatholig. Dychwelodd i Loegr i astudio'r gyfraith, a chafodd ei dderbyn i Goleg y Frenhines, Rhydychen yn 1660, er na derbyniodd radd. Tua'r cyfnod hwn fe drodd yn ôl at Brotestaniaeth. Mae'n bosib iddo deithio i Sbaen yn ddiplomydd yn y 1660au, ac mae'n debyg iddo frwydro yn yr ail ryfel ar y môr rhwng Lloegr a Gweriniaeth yr Iseldiroedd yn 1665. Cafodd ei garcharu am saith mlynedd oherwydd ei ddyled, a throdd yn ôl at yr Eglwys Gatholig yn ystod teyrnasiad y Brenin Iago II.[1]
Ymhlith ei ddramâu mae Love in a Wood; or, St. James’s Park (1671), The Gentleman Dancing-Master (1672), The Plain-Dealer (1676), a The Country-Wife (1677).