Symbol | 🜨, ♁ |
---|---|
Nodweddion orbitol | |
Pellter cymedrig i'r haul | 1 US 149,597,890 km |
Radiws cymedrig | 147,100,000 – 152,100,000 km |
Echreiddiad | 0 |
Parhad orbitol | 365.24 dydd |
Buanedd cymedrig orbitol | 29,785.9 km/s-1 |
Gogwydd orbitol | 0.00005° |
Nifer o loerennau | 1 |
Nodweddion materol | |
Diamedr cyhydeddol | 12,756.270 km |
Diamedr pegynol | 12,713.500 km |
Diamedr cymedrig | 12,745.591 km |
Arwynebedd | 5.1×108 km2 |
Más | 5.9737×1024 kg |
Dwysedd cymedrig | 5.515 g/cm-3 |
Disgyrchiant ar yr arwyneb | 9.766 m/s-2 |
Parhad cylchdro | 23.934 awr |
Albedo | 0.38 |
Buanedd dihangfa | 5.02 km s-1 |
Tymhereddau arwyneb | 185 K (isaf) |
287 K (cymedrig) | |
331 K (uchaf) | |
Nodweddion atmosfferig | |
Gwasgedd atmosfferig | 101.32 kPa |
Nitrogen | 77% |
Ocsigen | 21% |
Argon | 1% |
Y Ddaear (symbol: ; hefyd y byd; Groeg: Γαῖα neu Gaia sef ‘mam ddaear’[1]) yw'r blaned yr ydym ni'n byw arni. Hi yw'r drydedd blaned oddi wrth yr Haul, canolbwynt Cysawd yr Haul. Mae gan y Ddaear un lloeren naturiol: y Lleuad. Mae'r Ddaear yn cylchdroi unwaith o amgylch yr Haul bob blwyddyn (sef 365.2422 niwrnod), ac yn troi o gylch ei hechel ei hun unwaith bob diwrnod serol (23.934 awr), sef yr amser sydd ei angen er mwyn i'r haul ddychwelyd i'r un lle yn yr wybren. Gellir dweud fod y ddaear yn unigryw o blith y planedau gan fod arni fywyd, digonedd o ddŵr ac awyr sy'n gyfoethog o nitrogen ac ocsigen; ond er hynny dydi hi ddim yr unig enghraifft o blaned yn y bydysawd a all gynnal bywyd. Credir i fywyd ddechrau arni o leiaf 3.5 biliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP), er bod tystiolaeth o 'fywyd biotig' yng ngorllewin Awstralia'n mynd yn ôl i 4.1 biliwn CP.[2]
O astudiaeth radiometrig gallwn ddyddio ffurfiad y Ddaear, sef tua 4.54 biliwn o flynyddoedd yn ôl.[3][4][5] O fewn i biliwn blwyddyn cyntaf ei chreu, ymddangosodd bywyd yn ei moroedd. Yr hyn sy'n caniatáu hyn yw pellter y Ddaear o'r haul, ei nodweddion ffisegol a'i gwneuthuriad daearegol.
Ceir pob math o diroedd ar wyneb y ddaear a elwir yn gyfandiroedd, a orchuddir gan goedwigoedd, glaswellt, tir diffaith lle nad oes dim yn tyfu a cheir tir wedi'i orchuddio gan eira a iâ. Gall ei hwyneb fod yn wastad, yn fryniog neu yn fynyddig. Hefyd mae pob math o bethau byw ar y ddaear, yn blanhigion ac anifeiliaid ac organebau byw eraill.
|deadurl=
ignored (help)