Enghraifft o: | religious war |
---|---|
Dyddiad | 2 Medi 1192 |
Rhan o | Y Croesgadau |
Dechreuwyd | 1189 |
Daeth i ben | 1192 |
Rhagflaenwyd gan | Yr ail Croesgad |
Olynwyd gan | Y Bedwaredd Groesgad |
Lleoliad | Y Dwyrain Agos |
Yn cynnwys | Battle of Iconium, Siege of Acre, Battle of Arsuf, Battle of Jaffa |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y drydedd yn y gyfres o gyrchoedd yn erbyn y Saraseniaid ym Mhalesteina a'r Lefant i ennill meddiant ar y Tir Sanctaidd oedd Y Drydedd Groesgad. Parahodd o'r flwyddyn 1189 hyd 1192.
Cwymp dinas Caersalem i Saladin yn 1187 oedd yr ysbardun a arweiniodd at gyhoeddi'r Drydedd Groesgad yn 1189. Yr arweinwyr oedd Phylip II Awgwstws o Ffrainc, yr Ymerodr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa a Rhisiart Coeur de Lion o Loegr.
Un o'r rhai aeth allan i'r Tir Sanctaidd oedd y prelad Eingl-Normanaidd Baldwin, Archesgob Caergaint. Cyn hynny bu'n teithio o amgylch Cymru yng nghwmni Gerallt Gymro i geisio cael pobl i ymuno yn y groesgad newydd, taith a ddisgrifir yn y llyfr Hanes y Daith Trwy Gymru. Bu farw Baldwin ym Mhalesteina yn 1190, ddwy flynedd ar ôl ei ymweliad â Chymru.