Y Dydd Olaf | |||||
---|---|---|---|---|---|
Albwm stiwdio gan Gwenno | |||||
Rhyddhawyd | Tachwedd 2014 | ||||
Label | Recordiau Peski, Recordiau Heavenly | ||||
Cronoleg Gwenno | |||||
|
Albwm cyntaf y gantores Gwenno yw Y Dydd Olaf. Rhyddhawyd yr albwm yn Nhachwedd 2014 ar y label Recordiau Peski.
Yn dilyn casgliad o EPs dros y ddwy flynedd flaenorol, cafodd albwm cyntaf y frenhines electro-pop ei ryddhau ar ddiwedd 2014. Record gysyniadol wedi’i hysbrydoli gan nofel ffuglen wyddonol Owain Owain, sy’n rhannu enw’r albwm, a ryddhawyd ym 1976. Mae’n record wyddonol, mae’n record alluog, ac mae’n record sy’n torri tir newydd yn y Gymraeg.
Dewiswyd Y Dydd Olaf yn un o ddeg albwm gorau 2014 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]