Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Y Fari Lwyd

Y Fari Lwyd
Y Fari Lwyd yn Llangynwyd, Pen-y-bont ar Ogwr tua 1910
Enghraifft o:defod, traddodiad Celtaidd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaHen Galan Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y Fari Lwyd; 2014

Arferai partïon 'canu gwaseila' gludo pen neu benglog caseg neu geffyl a elwid yn Fari Lwyd o ddrws i ddrws, yn enwedig drwy Forgannwg, lle bu'n draddodiad di-dor. Mae pentref Llangynwyd ym Morgannwg yn parhau hyd heddiw i gynnal y Fari Lwyd, ac yn ddiweddar mae llawer o ardaloedd wedi ei hatgyfodi.

Deillia'r hen arfer o dywys y 'Fari Lwyd' o gwmpas tai o hen ddefod a oedd unwaith yn ymwneud â ffrwythlondeb, mae'n debyg. Fe'u cynhelid o noswyl y Nadolig hyd 6 Ionawr ac weithiau ar ôl hynny hyd yn oed ac roedd i'r ddefod gysylltiad arbennig â Nos Ystwyll (sef 5 Ionawr). Mae'r ffigwr hwn o ben ceffyl yn ddigon adnabyddus yn nefodau tymhorol gwledydd eraill hefyd. Ymhlith yr arferion eraill a gynhelid yr adeg hon (ond sydd, yn wahanol i ddefod y Fari Lwyd wedi diflannu o'r tir) y mae hela'r dryw bach a gwaseila.

Gwaith celf gan Rhŷn Williams yn seiliedig ar y Fari lwyd draddodiadol.

Previous Page Next Page






ماري لوويد Arabic Mari Lwyd BR Mari Lwyd German Mari Lwyd English Mari Lwyd French Mari Lwyd GL Mari Lwyd Italian Серая Лошадь (обряд) Russian

Responsive image

Responsive image