![]() | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,284, 2,330 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 589.92 ha ![]() |
Gerllaw | Afon Menai ![]() |
Cyfesurynnau | 53.183°N 4.21°W ![]() |
Cod SYG | W04000104 ![]() |
Cod OS | SH525675 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Y Felinheli[1][2] ( ynganiad ). Saif ar lan y Fenai rhwng Bangor a Chaernarfon. Mae'r boblogaeth oddeutu 2,000.
Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd canran y siaradwyr Cymraeg dros 3 oed yn y Felinheli yn 72%, gyda'r canran fwyaf yn yr oedran 5-9 mlwydd oed, sef 97.8%. Mae cymdeithas Gymraeg gref yma, gyda'r rhan fwyaf o weithgareddau'r pentref yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.
Datblygodd yn wreiddiol fel porthladd yn cludo llechi o chwarel Dinorwig, ac yn sgil hynny, fe fagwyd yr enw "Port Dinorwic", ond nid yw'r enw'n cael ei ddefnyddio bellach mewn unrhyw gylch. Cysylltwyd y chwarel â'r pentref gan reilffordd Padarn.
Mae'r gymuned cychio a hwylio yn y pentref yn un fawr. Mae gan y pentref angorfeydd, marina ac i ychwanegu at hynny, mae gan y Felinheli busnesau morwrol o bob math; mae'r rhain yn cynnwys busnesau taclu, crewyr hwyliau a buarth cychod. Mae gan y pentref hefyd rywfaint o dai haf. Prysur a bywiog yw'r clwb hwylio hefyd, gyda chystadlaethau dingis yn cael eu cynnal ar brynhawniau Sadwrn a Mercher a nosweithiau Gwener.
Adeiladwyd ffordd osgoi ym 1993/'94, ac yn sgil hynny, mae wedi lleihau'r broblem draffig a oedd y bodoli cyn hynny.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]