Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Trelawnyd a Gwaenysgor |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 251 metr |
Cyfesurynnau | 53.3104°N 3.3722°W |
Cod OS | SJ0867480166 |
Hyd | 80 metr |
Manylion | |
Amlygrwydd | 59 metr |
Rhiant gopa | Mynydd y Cwm |
Bryn a safle archaeolegol yn Sir y Fflint yw Y Gop, sy'n dod o'r gair "copa". Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y sir fymryn i'r gogledd o bentref Trelawnyd, Sir Ddinbych a gellir ei ystyried fel un o gopaon gogleddol Bryniau Clwyd, er ei fod fymryn i'r dwyrain o'r brif gadwyn. Dyma ail siambr gladdu fwyaf gwledydd Prydain - ar ôl Silbury Hill ger Avebury ac mae'n perthyn i Oes Newydd y Cerrig.[1] Yn lleol, gelwir y bryncyn hefyd yn Fryn y Saethau.