Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Caergybi |
Poblogaeth | 13,659 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Prydain |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 39.4 km² |
Gerllaw | Môr Iwerddon |
Cyfesurynnau | 53.2833°N 4.6167°W |
Hyd | 12.3 cilometr |
Gwleidyddiaeth | |
Ynys oddi ar pen gogledd-orllewinol Ynys Môn yw Ynys Gybi (Saesneg: Holy Island). Ei harwynebedd yw tua 464 hectar neu 15.22 milltir sgwâr. Fe'i henwir ar ôl Sant Cybi, nawddsant Caergybi. Ceir nifer sylweddol o safleoedd hynafol ar yr ynys, yn feini hirion, siambrau claddau a chytiau'r Gwyddelod a safleoedd cysylltiedig â Christnogaeth gynnar ac olion Celtaidd. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae gan Ynys Gybi boblogaeth o 13,659 ac roedd 11,431 (84%) o'r boblogaeth yn byw yng Nghaergybi ei hun.