![]() | |
Math | conservatoire, prifysgol, sefydliad addysg uwch, adeiladwaith pensaernïol, sefydliad addysgol ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Prifysgol Llundain ![]() |
Lleoliad | Llundain ![]() |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5236°N 0.1519°W, 51.52337°N 0.15172°W, 51.523488°N 0.151686°W ![]() |
Cod OS | TQ2832682127 ![]() |
Cod post | NW1 5HT ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II ![]() |
Sefydlwydwyd gan | John Fane, 11eg iarll Westmorland ![]() |
Manylion | |
Yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, Lloegr, yw'r conservatoire hynaf yn y DU. Fe'i sefydlwyd ym 1822 [1] gan John Fane a Nicolas-Charles Bochsa. Derbyniodd ei Siarter Frenhinol ym 1830 gan y Brenin Siôr IV gyda chefnogaeth Dug 1af Wellington.[2] Mae cyn-fyfyrwyr enwog yr Academi yn cynnwys Morfydd Llwyn Owen, Osian Ellis, Syr Simon Rattle, Syr Harrison Birtwistle, Syr Elton John ac Annie Lennox.
Mae'r Academi yn darparu hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig ar draws perfformiad offerynnol, cyfansoddi, jazz, theatr gerdd ac opera, ac yn recriwtio cerddorion o bob cwr o'r byd, gyda chymuned myfyrwyr sy'n cynrychioli mwy na 50 o genhedloedd. Mae wedi ymrwymo i ddysgu gydol oes, o'r Academi Iau, sy'n hyfforddi cerddorion hyd at 18 oed, trwy brosiectau cerddoriaeth gymunedol yr Academi Agored, i berfformiadau a digwyddiadau addysgol ar gyfer pob oedran.[3]
Mae amgueddfa'r Academi yn gartref i un o gasgliadau mwyaf arwyddocaol y byd o offerynnau cerdd ac arteffactau, gan gynnwys offerynnau llinynnol gan Stradivari, Guarner, ac aelodau o deulu Amati; llawysgrifau gan Purcell, Handel a Vaughan Williams; a chasgliad o ddeunyddiau perfformio a oedd yn eiddo i berfformwyr blaenllaw. Mae'n goleg cyfansoddol ym Mhrifysgol Llundain ac yn elusen gofrestredig o dan gyfraith Lloegr.