Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Ysbaddaden Bencawr

Ysbaddaden: darlun gan John D. Batten (1860–1932) ar gyfer llyfr Celtic Fairy Tales (1892)

Cawr chwedlonol yw Ysbaddaden Bencawr ("Ysbaddaden Pennaeth y Cewri"); hefyd Ysbyddaden Bencawr. Mae'n un o brif gymeriadau'r chwedl Gymraeg Canol Culhwch ac Olwen. Merch Ysbaddaden yw Olwen. Mae Culhwch, arwr y chwedl, wedi ei dynghedu gan ei lysfam i garu ac i ennill llaw Olwen yn unig. Ond os bydd Culhwch yn priodi Olwen bydd Ysbaddaden yn marw. Mae pob arwr arall a geisiai Olwen wedi methu neu farw yn yr ymgais.

Mae'r cawr yn gwrthod cais Culhwch am law Olwen deirgwaith gan daflu gwaywffon wenwynig ato bob tro. Y trydydd tro mae Culhwch yn dal y waywffon a'i bwrw yn ôl gan daro Ysbaddaden yn ei lygad. Mae Ysbaddaden yn ildio i gais Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain tasg amhosibl (yr Anoethau) cyn iddo gael priodi Olwen. Ar ôl cyfres o anturiaethau gyda chymorth arwyr llys Arthur mae Culhwch yn cyflawni'r Anoethau. Mae Goreu fab Custennin, a guddiwyd mewn cist rhag iddo gael ei ladd gan Ysbaddaden fel ei frodyr, yn torri pen y cawr ac mae Culhwch o'r diwedd yn priodi Olwen.


Previous Page Next Page






Ysbaddaden Pencawr BR Ysbaddaden German Ysbaddaden English Yspaddaden French Ysbaddaden Pencawr Italian 어스바다덴 벤카우르 Korean Исбаддаден Russian Ysbaddaden Swedish Ysbaddaden Turkish

Responsive image

Responsive image