Our website is made possible by displaying online advertisements to our visitors.
Please consider supporting us by disabling your ad blocker.

Responsive image


Ysgol Dyffryn Teifi

Ysgol Dyffryn Teifi
Arwyddair Oni heuir, ni fedir
Sefydlwyd 1984
Caewyd 2016
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Lleoliad Heol Llyn y Frân, Llandysul, Ceredigion, Cymru, SA44 4HP
AALl Cyngor Sir Ceredigion
Disgyblion 628 (2007)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 11–18
Lliwiau Coch
Gwefan http://www.dyffrynteifi.org

Ysgol gyfun ddwyieithog a leolir yn Llandysul, Ceredigion oedd Ysgol Dyffryn Teifi.

Sefydlwyd yr ysgol ar ei ffurf presennol, ar hen safle'r ysgol ramadeg, ym 1984 yn dilyn aildrefnu addysg yn Nyffryn Teifi.[2] Yn 2016 caewyd yr ysgol ac agorwyd ysgol newydd yn Llandysul, sef Ysgol Bro Teifi.[3] Mae hanes yr ysgol yn dyddio'n ôl i'r 19g, pan adnabyddwyd hi fel Ysgol Ramadeg Llandysul neu Ysgol Ramadeg Dyffryn Teifi.

Gwasanaethodd ddisgyblion ardaloedd canol Ceredigion a gogledd Sir Gaerfyrddin, a oedd yn dymuno dilyn addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn academaidd cafwyd cofnod da o gyrhaeddiad ar ran yr ysgol ar lefelau, lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol a bu'r ysgol yn fuddugol mewn sawl cystadleuaeth genedlaethol megis yr Urdd. Rhoddwyd pwyslais o fewn yr ysgol ar werthoedd traddodiadol Gymreig, trwy gynnal gwasanaethau, gwersi a gweithgareddau eraill drwy gyfrwng yr iaith a thrwy mentrau eraill o fewn y gymuned lleol.

Yn 2001 roedd 570 o ddisgyblion yn yr ysgol,[2] disgynodd y niferau hyn yn ddiweddarach, ond cynyddodd unwaith eto i 527 yn 2007, a disgwylid i'r niferau barhau i gynyddu'n raddol.[1] Daeth 78% o'r disgyblion o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith yn 2001,[2] cynyddodd y canran hyn i 83% yn 2007, gyda 91% o'r holl disgyblion yn siarad yr iaith i safon iaith gyntaf.[1]

  1. 1.0 1.1 1.2  Adroddiad Ysgol Dyffryn Teifi , 16 Ebrill 2007. Estyn (20 Mehefin 2007). Adalwyd ar 23 Gorffennaf 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2  Adroddiad yr Ysgol, 15-18 Hydref 2001. Estyn (2001-12-17). Adalwyd ar 12 Ionawr 2009.
  3. Ysgol ardal newydd Llandysul yn 'arloesol' , BBC Cymru Fyw, 22 Mehefin 2016. Cyrchwyd ar 24 Medi 2016.

Previous Page Next Page






Skol Dyffryn Teifi BR Ysgol Dyffryn Teifi English

Responsive image

Responsive image