Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 200,680 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Aberdeen |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 65.1 km² |
Gerllaw | Afon Don, Afon Dee, Aberdeen Bay |
Cyfesurynnau | 57.15°N 2.1°W |
Cod SYG | S20000478, S19000600 |
Cod post | AB10-AB13 (parte), AB15, AB16, AB22-AB25 |
GB-ABE | |
Dinas yng ngogledd-ddwyrain yr Alban yw Aberdeen (Gaeleg yr Alban: Obar Dheathain;[1] Sgoteg: Aiberdeen).[2] Mae hefyd yn un o awdurdodau unedol yr Alban. Mae'n borthladd sy'n gorwedd ar lan Môr y Gogledd, rhwng aberoedd Afon Dee ac Afon Don, ac mae'n enwog am ei diwydiant pysgota ac fel un o brif ganolfannau diwydiant olew yr Alban. Mae ganddi boblogaeth o 202,370 (2001), sy'n ei gwneud y drydedd ddinas yn yr Alban o ran poblogaeth.
Mae'n ddinas hanesyddol gydag eglwys gadeiriol, nifer o hen dai a phrifysgol a sefydlwyd ym 1494. Roedd yn ganolfan i waith chwareli ithfaen yn y gorffennol a daeth yn enwog fel y 'Ddinas Ithfaen' am ei bod yn cyflenwi cerrig ar gyfer palmantu strydoedd Llundain yn y ddeunawfed ganrif.