Adam Price AS | |
---|---|
Adam Price yn 2021 | |
Arweinydd Plaid Cymru | |
Yn ei swydd 28 Medi 2018 – 16 Mai 2023 | |
Arlywydd | Dafydd Wigley |
Dirprwy | Rhun ap Iorwerth Sian Gwenllian |
Rhagflaenwyd gan | Leanne Wood |
Dilynwyd gan | Rhun ap Iorwerth Llyr Huws Gruffydd (dros dro) |
Aelod o Senedd Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 5 Mai 2016 | |
Rhagflaenwyd gan | Rhodri Glyn Thomas |
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr | |
Yn ei swydd 7 Mehefin 2001 – 12 Ebrill 2010 | |
Rhagflaenwyd gan | Alan Wynne Williams |
Dilynwyd gan | Jonathan Edwards |
Manylion personol | |
Ganwyd | Caerfyrddin | 23 Medi 1968
Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
Alma mater | Prifysgol Caerdydd Prifysgol Harvard |
Gwefan | Gwefan wleidyddol |
Gwleidydd o Gymru yw Adam Price (ganwyd 23 Medi 1968) ac Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2016. Roedd yn arweinydd Plaid Cymru rhwng 2018 a 2023.[1] Mae'n gyn-aelod seneddol Plaid Cymru yn cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn San Steffan. Enillodd y sedd oddi wrth y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 2001. Fe'i etholwyd yn arweinydd Plaid Cymru yn Medi 2018 ac ef yw'r person hoyw agored cyntaf i arwain plaid wleidyddol yn y Deyrnas Unedig.