Afon Braint

Afon Braint
Mathafon Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlBrigantia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.15°N 4.34°W Edit this on Wikidata
TarddiadPentraeth Edit this on Wikidata
AberAfon Menai Edit this on Wikidata
Map

Un o afonydd Ynys Môn yw Afon Braint. Mae'n anarferol gan fod ganddi ddwy aber.

Mae'r afon yn tarddu o Lyn Llwydiarth, ar lethrau Mynydd Llwydiarth rhwng Pentraeth a Llanddona, ac yn llifo i'r de-orllewin. Mae'r B5420 yn croesi'r afon mewn lle o'r enw Sarn Fraint, Penmynydd.

Wrth ymyl Llanfairpwllgwyngyll, mae'r afon yn gwahanu. Mae un rhan ohoni yn llifo i'r de-ddwyrain, gan gyrraedd Afon Menai o fewn milltir ym Mhwllfanogl. Mae'r rhan arall o'r afon yn parhau i lifo i'r de-orllewin am chwe milltir, gan gyrraedd Afon Menai mewn aber arall wrth ymyl Dwyran.

Aber Afon Braint, ger Dwyran

Mae'n bosibl bod yr enw Braint yn tarddu o ffurf ar enw'r dduwies Geltaidd Brigantia (a goffheir hefyd yn enw'r llwyth Celtaidd y Brigantes a drigai yng ngogledd y rhan o Brydain a elwir Lloegr heddiw).

Mae'n bosib cerdded drost yr afon ar hyd y cerrig camu.[1]

  1. "Rhuddgaer Stepping Stones Anglesey: The Perfect Picnic Spot - Discover North Wales" (yn Saesneg). 2022-01-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-02. Cyrchwyd 2022-12-02.

Afon Braint

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne