Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd, Sir Ddinbych, Wrecsam, Swydd Amwythig, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Sir y Fflint |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Arwynebedd | 1,491.42 ha |
Cyfesurynnau | 53.3539°N 3.2258°W, 52.8317°N 3.7625°W, 53.3381°N 3.2158°W, 52.972922°N 3.395275°W |
Tarddiad | Dduallt |
Aber | Aber Afon Dyfrdwy |
Llednentydd | Afon Tryweryn, Aldford Brook, Afon Ceiriog, Afon Clywedog (Dyfrdwy), Afon Eitha, Wych Brook |
Dalgylch | 1,816.8 cilometr sgwâr |
Hyd | 110 cilometr |
Arllwysiad | 29.71 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Statws treftadaeth | Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Afon yng Nghymru a gogledd-orllewin Lloegr yw Afon Dyfrdwy (weithiau hefyd gyda threiglad, Afon Ddyfrdwy); (Saesneg, River Dee; Lladin, Deva Fluvius). Mae'n llifo trwy siroedd Gwynedd, Sir Ddinbych a Wrecsam yng Nghymru ac ar hyd ffin Swydd Gaer a Swydd Amwythig yn Lloegr.
Mae'n llifo o'r bryniau uwchben Llanuwchllyn yng Ngwynedd trwy Lyn Tegid, dros Raeadr y Bedol a thrwy Llangollen. Ger Llangollen, mae Camlas Llangollen (hen enw: Camlas Ellesmere) yn croesi'r afon ar Draphont Pontcysyllte a adeiladwyd gan Thomas Telford ym 1805. Yn Lloegr, mae dinas Caer ar lan ddwyreiniol yr afon. Mae'n llifo i mewn i'w aber yn fuan wedyn; gelwir yr ardal o gwmpas ei glannau yn Lannau Dyfrdwy.