Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.8353°N 3.0033°W |
Aber | Afon Wysg |
Afon fer yn Sir Fynwy yw Afon Gafenni. Mae'n tarddu tua 1 milltir (1.6 km) i'r de-orllewin o bentref Llanfihangel Crucornau ac yn llifo i'r de am tua 4 milltir (6.4 km) i'w chydlifiad ag Afon Wysg tua phen dwyreiniol Dolydd y Castell yn y Fenni. Ychydig cyn iddi gwrdd ag Afon Wysg mae'r afon fechan Afon Cibi yn ymuno â hi.
Ar ei hyd mae'r afon yn gul ac yn llifo'n gyflym. Gellir gweld bronwennod y dŵr yn aml yn y dŵr.