Afon Menai

Afon Menai
Mathculfor Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1806°N 4.2333°W Edit this on Wikidata
Map

Sianel dŵr hallt neu gulfor yng ngogledd-orllewin Cymru rhwng Ynys Môn ac Arfon (Gwynedd) ar y tir mawr yw Afon Menai. Ei hyd yw tua 14 milltir. Mae lled y Fenai yn amrywio o lai na chwarter milltir ger Porthaethwy, lle mae Pont Y Borth yn ei chroesi, a ger Llanfairpwll lle mae Pont Britannia yn ei chroesi, i tua 3 milltir a hanner yn ei phen gorllewinol. Yn y gorllewin ceir nifer o lagwnau bychain, Y Foryd ar y tir mawr a Thraeth Melynog ar dir Môn. I'r gogledd-ddwyrain o'r pontydd mae'r Fenai yn ymledu dros Draeth Lafan rhwng Penmon ac Ynys Seiriol yn y gogledd a Phenmaenmawr yn y de ac yn mynd yn rhan o Fae Conwy. Mae'r llanw yn rhedeg yn gyflym trwyddi weithiau ac yn gallu bod yn beryglus, yn arbennig yng nghyffiniau trobwll Pwll Ceris.

Pont Britania; ca. 1860

Ceir sawl tref a phentref ar ei glannau. Ar lannau Gwynedd ceir Caernarfon, Y Felinheli a Llanfairfechan, ac ar yr ynys ceir Porthaethwy a Biwmares.

Mae’r afon yn mynd i ddwy lle sef Pont Grog y Borth sydd yn cario’r A5, a Robert Stephenson 1850 Pont Britannia. Roedd Pont Britannia yn cario rheilffordd oedd yn symud bocsys mawr allan o heuan ond ar ôl tan fawr wnaeth dinistrio’r lle yn 1970 doedd yna bron iawn dim byd ar ôl yno. Ond cafodd i ail adeiladu a rŵan hefo rheilffordd a ffordd traffig sef y A55. Rhwng y ddwy pont mae yna ynys fach yno Ynys Gored Goch, hefo tai bach wedi cael ei adeiladu arno, a thrap pysgod sydd ddim yn cael ei defnyddio dim mwy.


Afon Menai

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne