Math | y brif ffrwd, afon |
---|---|
Cysylltir gyda | Camlas Juliana |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Meuse basin, Grote rivieren |
Sir | Haute-Marne, Vosges, Meuse, Ardennes, Namur, Liège, Limburg, Limburg, Noord-Brabant, Gelderland |
Gwlad | Ffrainc, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd |
Cyfesurynnau | 51.86639°N 4.01889°E, 47.97435°N 5.633539°E, 51.715°N 4.6678°E |
Tarddiad | Le Châtelet-sur-Meuse |
Aber | Môr y Gogledd |
Llednentydd | Rur, Afon Sambre, Dieze, Ourthe, Niers, Lesse, Afon Semois, Chiers, Mouzon, Houille, Voer, Saônelle, Canal of Lanaye, Schwalm, Aroffe, Sormonne, Mehaigne, Bocq, Flambart, Jeker, Vair, Geul, Bar, Viroin, Molignée, Neerbeek, Groote Molenbeek, Canal de l'Ourthe, Hoyoux, Goutelle, Alyse, Andon, Samson, Berwinne, Wiseppe, Burnot, Creuë, Ennemane, Faux, Leffe, Forges, Gelbressée, Givonne, Hermeton, Houyoux, Julienne, Légia, Méholle, Saulx, Rupt, Récourt, Scance, Vence, Vrigne, Wame, Yoncq, Monsin Canal, Oude Maas, Dave, Awris, Féron, Oxhe, Solières, Tailfer, Villencourt, Engerbeek, Nierskanal, Siebersbeek, Q3547854, Lingsforterbeek, ruisseau de Bradon, Vaise, Oude Broekgraaf, Hemelbeek, Kogbeek, Kikbeek, Ziepbeek, Molenbeek, Langbroekbeek, Rachelsbeek, Velaine, Andenelle, Ville en Cour, Ruisseau de la Vecquée, Ruisseau de Hollogne, Ruisseau des Moulins, Ravin de Sorinne, Ruisseau d'Annevoie, Joncquière, Heer, Pré des Rois, Aalsbeek |
Dalgylch | 36,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 950 cilometr |
Arllwysiad | 230 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Maasplassen |
Afon yng ngorllewin Ewrop yw Afon Meuse (Iseldireg ac Almaeneg Maas). Mae'n tarddu yn Ffrainc, yna'n llifo trwy Wlad Belg a'r Iseldiroedd; mae'n 925 km (575 milltir) o hyd.
Afon Meuse oedd ffin orllewinol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig o ddechrau'r ymerodraeth yn y 9g hyd pan ddaeth Alsace a Lorraine yn rhan o Ffrainc trwy Gytundeb Westphalia yn 1648.
Tardda'r Meuse ym mhentref Pouilly-en-Bassigny ar lwyfandir Langres (Haute-Marne) yn Ffrainc, a llifa tua'r gogledd trwy départements Vosges, Meuse ac Ardennes, heibio Sedan a Charleville-Mézières i Wlad Belg. Ger Namur mae Afon Sambre yn ymuno â hi. Mae'n awr yn llifo tua'r dwyrain a heibio Liège cyn troi tua'r gogledd i ffurfio'r ffin rhwng Gwlad Belg a'r Iseldiroedd. Mae'n mynd heibio Maastricht a Venlo, yna'n troi tua'r gorllewin i gyrraedd y môr, gan rannu delta ag Afon Rhein.
Ceir cyfeiriad at yr afon fel ffin yr Almaen yn Das Lied der Deutschen, Von der Maas bis an die Memel....