Afon Nene yn Swydd Northampton, a phentref Fotheringhay yn y cefndir | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Northampton |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.5648°N 0.355°W, 52.2318°N 1.2103°W, 52.8214°N 0.2161°E |
Aber | Môr y Gogledd |
Llednentydd | Afon Ise |
Dalgylch | 1,634 cilometr sgwâr |
Hyd | 146 cilometr |
Afon yn nwyrain Lloegr yw Afon Nene. Mae gan yr afon dri tharddiad yn Swydd Northampton. Tarddiad y Nene Daventry yw Bryn Arbury; tarddiad y Brampton Nene yw Naseby, a tharddiad y Nene Yelvertoft yw Yelvertoft. Mae’r tair afon yn uno yn Northampton, lle mae Camlas Grand Union yn ymuno â’r Nene hefyd. Mae’r afon yn llifo o Northampton, trwy Great Gidding, Earls Barton, Wellingborough, Thrapston, Oundle, Peterborough, March, Guyhirn, Wisbech, Sutton Bridge, Tydd Gote a Gedney Drove End cyn llifo i‘r Wash.
Gall cychod yn defnyddio’r afon rhwng ei chyffordd gyda Chamlas Grand Union ger Northampton, hyd at y môr 88 milltir i ffwrdd. Mae gan yr afon 38 o lociau.[1] Yn Swydd Northampton, mae’r afon yn llifo o dan Gamlas y Grand Union, rheilffordd yr arfordir gorllewinol, a thraffordd yr M1, a heibio Melin Kislingbury. Mae’n pasio Gwarchodfa Natur Titchmarsh, Rheilffordd Dyffryn Nene ger Wansford, Oundle Marina, Parc Archeologol Flag Fen a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Nene Washes, sydd yn 3,700 erw o wlyptir i’r dwyrain o Peterborough.
Mae sawl isafon, megis Afon Welland ac Afon Witham. Mae’r afon yn cysylltu ag Afon Great Ouse yn Salters Lode. Mae’r afon yna’n rhan o gyfundrefn ddraeniad mawr maint 270 milltir sgwâr. Mae pedair traphont reilffordd yn croeso’r afon, yn Irthlingborough, Thrapston, Wansford a Wellingborough.[2].
Mae’r Goleudy Dwyrain a Goleudy Gorllewin yn sefyll ar lannau’r afon yn nhref Long Sutton. Erbyn hyn, dydy cludiant ddim mor bwysig ar yr afon; mae gweithgareddau awyr agored megis pysgota a hwylio’n bwysicach.[2]