Al-Karak

Al-Karak
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth21,678 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1140 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iVeliko Tarnovo, Veliko Tarnovo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Lywodraethol Karak Edit this on Wikidata
GwladBaner Iorddonen Iorddonen
Arwynebedd3,495 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr930 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.1844°N 35.705°E Edit this on Wikidata
Map

Mae al-Karak ( Arabeg: الكرك‎), a elwir hefyd yn Karak neu Kerak, yn ddinas yng Ngwlad Iorddonen sy'n adnabyddus am ei chastell y Croesgadau, sef Castell Kerak. Mae'r castell yn un o'r tri chastell mwyaf yn y rhanbarth, gyda'r ddau arall yn Syria. Al-Karak yw prifddinas Ardal Lywodraethol Karak.

Lleolir al-Karak 140 cilometr (87 mi) i'r de o Amman ar Briffordd Hynafol y Brenin. Saif y ddinas ar ben bryn tua 1,000 metr (3,300 tr) uwchlaw lefel y môr ac mae wedi'i hamgylchynu ar dair ochr gan ddyffryn. Gellir gweld y Môr Marw o al-Karak. Mae dinas o tua 32,216 o bobl (2005 [1]) wedi datblygu o amgylch y castell ac mae ganddi adeiladau o'r cyfnod Otomanaidd o'r 19eg ganrif. Mae'r ddinas wedi'i hadeiladu ar lwyfandir trionglog, gyda'r castell ar ei ben deheuol gul.

  1. https://www.citypopulation.de/Jordan-Cities.html

Al-Karak

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne