Albert Einstein

Albert Einstein
Llais03 ALBERT EINSTEIN.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd14 Mawrth 1879 Edit this on Wikidata
Ulm Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 1955 Edit this on Wikidata
o ymlediad aortaidd abdomenol Edit this on Wikidata
Princeton Edit this on Wikidata
Man preswylEinsteinhaus Caputh, Einsteinhaus, München, Princeton, Smíchov, Schaffhausen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth yr Almaen, di-wlad, Y Swistir, Cisleithania, Gweriniaeth Weimar, yr Almaen, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
AddysgDoethur Athroniaeth Ffiseg Edit this on Wikidata
Alma mater
  • ETH Zurich
  • Luitpold-Gymnasium
  • old Kantonsschule (Albert Einstein House)
  • Prifysgol Zurich Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Alfred Kleiner
  • Heinrich Burkhardt
  • Heinrich Friedrich Weber Edit this on Wikidata
Galwedigaethffisegydd damcaniaethol, athronydd gwyddonol, dyfeisiwr, awdur gwyddonol, addysgwr, academydd, ffisegydd, athronydd, llenor, gwyddonydd, mathemategydd, arolygydd breinlenni, athro cadeiriol, heddychwr Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amperthnasedd arbennig, perthnasedd cyffredinol, Effaith ffotodrydanol, damcaniaeth perthnasedd, theory of Brownian Motion, cywerthedd mas-ynni, ℎ, hafaliadau maes Einstein, mecaneg cwantwm, damcaniaeth maes cyffredinol, stimulated emission Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadFyodor Dostoievski, Hermann Minkowski, Baruch Spinoza, Mahatma Gandhi, Arthur Schopenhauer, Hendrik Antoon Lorentz, George Bernard Shaw, Isaac Newton, Riazuddin, David Hume, Thomas Young, Bernhard Riemann, Moritz Schlick, James Clerk Maxwell, Paul Valéry, Karl Pearson, Henry George, Ernst Mach Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ddemocrataidd yr Almaen Edit this on Wikidata
TadHermann Einstein Edit this on Wikidata
MamPauline Koch Edit this on Wikidata
PriodMileva Marić, Elsa Einstein Edit this on Wikidata
PlantHans Albert Einstein, Eduard Einstein, Lieserl (Einstein) Edit this on Wikidata
PerthnasauLina Einstein, Elsa Einstein Edit this on Wikidata
Gwobr/auBarnard Medal for Meritorious Service to Science, Gwobr Ffiseg Nobel, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Gwobr Jules Janssen, Medal Matteucci, Medal Max Planck, Medal Franklin, Medal Copley, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Darlithoedd Josiah Willard Gibbs, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Geneva, Doctor Anrhydeddus o'r Brifysgol Hebraeg, Jerusalem, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Princeton, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Member of the National Academy of Sciences of the United States, Great Immigrants Award, Pour le Mérite, Honorary Fellow of the Royal Society Te Apārangi, doethor anrhydeddus o Brifysgol Paris Edit this on Wikidata
llofnod

Ffisegydd damcaniaethol a anwyd yn yr Almaen oedd Albert Einstein (14 Mawrth 1879 – 18 Ebrill 1955) (Almaeneg: [ˈalbɐrt ˈaɪnʃtaɪn] (Ynghylch y sain ymagwrando)). Einstein yw un o brif wyddonwyr y byd ac ef yw awdur y damcaniaethau: Perthnasedd cyffredinol a Pherthnasedd arbennig.[1][2] Cafodd ei waith ddylanwad enfawr ar athroniaeth gwyddoniaeth.[3] Mae'n fwyaf adnabyddus am ei hafaliad E = mc2 (a ddisgrifiwyd fel "hafaliad enwoca'r byd").[4] Yn 1921 derbyniodd Wobr Nobel mewn Ffiseg am ei "wasanaeth i Ffiseg ddamcaniaethol", yn enwedig am ei ddarganfyddiad 'yr effaith ffotodrydanol' (photoelectric effect) a oedd yn garreg filltir yn esblygiad ei ddamcaniaeth cwantwm.[5]

Ganwyd Einstein yn Ulm, Teyrnas Württemberg, yr Almaen a bu farw yn Princeton, New Jersey yn yr Unol Daleithiau.

O gychwyn ei yrfa mewn ffiseg, credodd Einstein fod 'mecaneg Newton' yn annigonol i brofi mecaneg glasurol parthed y maes electromagnetig, ac ymaflodd yn y gewaith o ddatblygu 'Damcaniaeth perthnasedd arbennig' ond cyn hir sylweddolodd y gall damcaniaeth perthnasedd hefyd gael ei ymestyn i feysydd disgyrchiant. Datblygodd hyn oll, gan gyhoeddi papur yn 1916 ac yna ei waith ar berthnasedd cyffredinol. Datblygodd hefyd ei syniadau ar fecaneg ystadegol a damcaniaeth cwantwm, a chyhoeddodd ei syniadau ar ddamcaniaeth gronynnau a moleciwlau symudiad (Brownian motion). Ymchwiliodd i briodweddau tymheredd golau, a ffurfiodd y syniadau hyn gongl-faen ei theori o ffotonau golau.

Yn 1917 cymhwysodd ei ddamcaniaeth perthynasedd cyffredinol i strwythurau enfawr y bydysawd.[6][7]

Pan ddaeth Adolf Hitler yn Ganghellor yr Almaen yn 1933 roedd Einstein yn teithio Unol Daleithiau America; gan ei fod yn Iddew nid aeth yn ôl i'r Almaen, ble roedd yn Athro Prifysgol yn Academi Gwyddoniaethau Berlin. Ymgartrefodd yno gan ddod yn ddinesydd o UDA. Rhybuddiodd yr Arlywydd Franklin D. Roosevelt o'r posibilrwydd o "ddatblygu bom pwerus iawn" gan annog ymchwil i hynny.[8] Ychydig wedi hyn lansiwyd "The Manhattan Project". Roedd Einstein o'r farn y dylid amddiffyn 'y Cynghreiriaid' ond ciliodd oddi wrth y syniad o ddefnyddio ei ddarganfyddiad newydd (Ymholltiad niwclear) fel arf. Yn ddiweddarach, gyda Bertrand Russell, arwyddodd faniffesto (Russell–Einstein Manifesto) a oedd yn cadarnhau peryglon arfau niwclear.

Ym 1905, blwyddyn a ddisgrifir weithiau fel ei annus mirabilis ('blwyddyn y wyrth'), cyhoeddodd Einstein bedwar papur arloesol.[9] Roedd y rhain yn amlinellu damcaniaeth yr effaith ffotodrydanol, yn esbonio'r mudiant Brownian, yn cyflwyno perthnasedd arbennig, ac yn dangos cywerthedd màs-ynni. Credai Einstein na ellid cysoni deddfau mecaneg glasurol bellach â deddfau'r maes electromagnetig, a arweiniodd ato i ddatblygu ei ddamcaniaeth arbennig o berthnasedd. Yna ymestynnodd y ddamcaniaeth i feysydd disgyrchiant; cyhoeddodd bapur ar berthnasedd cyffredinol yn 1916, yn cyflwyno ei ddamcaniaeth disgyrchiant. Ym 1917, cymhwysodd ddamcaniaeth gyffredinol perthnasedd i fodelu strwythur y bydysawd. Parhaodd i ddelio â phroblemau mecaneg ystadegol a damcaniaeth cwantwm, a arweiniodd at ei esboniadau o ddamcaniaeth gronynnau a mudiant moleciwlau. Ymchwiliodd hefyd i briodweddau thermol golau a damcaniaeth cwantwm ymbelydredd, a osododd sylfaen damcaniaeth ffotonau golau.

Ganed Einstein yn Ymerodraeth yr Almaen, ond symudodd i'r Swistir yn 1895, gan gefnu ar ei ddinasyddiaeth Almaenig (fel dinesydd Teyrnas Württemberg) y flwyddyn ganlynol. Ym 1897, yn 17 oed, cofrestrodd ar y rhaglen diploma addysgu mathemateg a ffiseg yn ysgol polytechnig Ffederal y Swistir yn Zürich, gan raddio yno yn 1900. Yn 1901, cafodd ddinasyddiaeth Swisaidd, a gadwodd weddill ei oes, ac yn 1903 cafodd swydd barhaol yn Swyddfa Batentau'r Swistir yn Bern. Yn 1905 dyfarnwyd PhD iddo gan Brifysgol Zurich. Ym 1914, symudodd Einstein i Berlin er mwyn ymuno ag Academi Gwyddorau Prwsia a Phrifysgol Humboldt Berlin. Yn 1917, daeth Einstein yn gyfarwyddwr Sefydliad Ffiseg Kaiser Wilhelm; daeth hefyd yn ddinesydd Almaenig eto, Prwsia y tro hwn.

  1. Whittaker, E. (1 Tachwedd 1955). "Albert Einstein. 1879–1955". Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society 1: 37–67. doi:10.1098/rsbm.1955.0005. JSTOR 769242.
  2. Fujia Yang; Joseph H. Hamilton (2010). Modern Atomic and Nuclear Physics. World Scientific. ISBN 978-981-4277-16-7.
  3. Don A. Howard, ed. (2014), Einstein's Philosophy of Science (website), The Metaphysics Research Lab, Center for the Study of Language and Information (CSLI), Stanford University, http://plato.stanford.edu/entries/einstein-philscience/#IntWasEinEpiOpp, adalwyd 2015-02-04
  4. David Bodanis (2000). E = mc2: A Biography of the World's Most Famous Equation. New York: Walker.
  5. The Nobel Prize in Physics 1921 : Albert Einstein, Nobel Media AB, archifwyd o y gwreiddiol ar 2008-10-05, https://www.webcitation.org/5bLXMl1V0?url=http://nobelprize.org/nobel_prizes/physics/laureates/1921/, adalwyd 2015-02-04
  6. (PDF) Scientific Background on the Nobel Prize in Physics 2011. The accelerating universe, Nobel Media AB, p. 2, http://www.nobelprize.org/nobel_prizes/physics/laureates/2011/advanced-physicsprize2011.pdf, adalwyd 2015-01-04
  7. Overbye, Dennis (24 Tachwedd 2015). "A Century Ago, Einstein's Theory of Relativity Changed Everything". New York Times. Cyrchwyd 24 Tachwedd 2015.
  8. Paul S. Boyer; Melvyn Dubofsky (2001). The Oxford Companion to United States History. Oxford University Press. t. 218. ISBN 978-0-19-508209-8.
  9. Galison (2000).

Albert Einstein

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne