Arwyddair | بالشّعب وللشّعب |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gweriniaeth y bobl, gwlad |
Prifddinas | Alger |
Poblogaeth | 46,164,219 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Kassaman |
Pennaeth llywodraeth | Nadir Larbaoui |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg, Berber Algeriaidd Safonol |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Affrica, Y Byd Mwslemaidd, Y Byd Arabaidd, Ffrainc |
Gwlad | Algeria |
Arwynebedd | 2,381,741 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Moroco, Libia, Niger, Mali, Tiwnisia, Mawritania, Gorllewin Sahara, yr Eidal, Sbaen |
Cyfesurynnau | 28°N 1°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Algeria |
Corff deddfwriaethol | Senedd Algeria |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Algeria |
Pennaeth y wladwriaeth | Abdelmadjid Tebboune |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Algeria |
Pennaeth y Llywodraeth | Nadir Larbaoui |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $163,472 million, $191,913 million |
Arian | Dinar Algeriaidd |
Canran y diwaith | 10 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.857 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.745 |
Gwlad yng ngogledd Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Algeria neu Algeria. Mae hi ar arfordir y Môr Canoldir a'r gwledydd cyfagos yw Tiwnisia i'r gogledd-ddwyrain, Libia i'r dwyrain, Niger i'r de-ddwyrain, Mali a Mawritania i'r de-orllewin a Moroco i'r gorllewin. Mae rhan helaeth o'r wlad yn gorwedd yn anialwch y Sahara. Mae bron y cyfan o'i phoblogaeth o 44 miliwn yn y gogledd eithaf, ar hyd yr arfordir ac ym mryniau'r Anti-Atlas, rhan o gadwyn Mynyddoedd yr Atlas. Alger yw'r brifddinas ac mae arwynebedd yn wlad yn 2,381,741 km sg (919,595 mill sg). Algeria, felly, yw'r wlad fwyaf o ran arwynebedd yn Affrica, y byd Arabaidd, ac ym masn y Môr Canoldir.
Cyn 1962 gwelodd Algeria lawer o ymerodraethau yn ceisio ei meddiannu, gan gynnwys y Numidiaid, y Ffeniciaid, Carthaginiaid, Rhufeiniaid, Fandaliaid, Byzantines, Umayyadiaid, Abbasidiaid, Rustamidiaid, Almohads, Zayyanids, Sbaenwyr, Ottomaniaid ac yn olaf, Ffrainc. Mae mwyafrif llethol poblogaeth Algeria yn Arabaiaid-Berber, yn ymarfer Islam, ac yn defnyddio ieithoedd swyddogol Arabeg a Berber. Fodd bynnag, oherwydd hanes trefedigaethol Ffrainc a'u hymyraeth yn y wlad hon, mae'r Ffrangeg yn gwasanaethu fel iaith weinyddol ac addysg mewn rhai cyd-destunau, ac Arabeg Algeria yw'r brif iaith lafar.
Mae Algeria yn weriniaeth lled-arlywyddol, gydag etholaethau lleol o 58 talaith a 1,541 comiwn. Mae Algeria yn bwer rhanbarthol (regional power) yng Ngogledd Affrica, ac yn bŵer canol mewn materion byd-eang. Mae ganddi'r Mynegai Datblygiad Dynol uchaf o'r holl wledydd yn Affrica nad ydynt yn ynysoedd ac mae ganddi un o'r economïau mwyaf ar gyfandir Affrica, wedi'i seilio'n bennaf ar allforion ynni. Mae ganddi hefyd gronfeydd olew 16ed mwya'r byd a'r nawfed gronfa fwyaf o nwy naturiol. Sonatrach, y cwmni olew cenedlaethol, yw'r cwmni mwyaf yn Affrica, ac mae'n cyflenwi llawer iawn o nwy naturiol i Ewrop. Mae byddin Algeria yn un o'r mwyaf yn Affrica, ac mae gan y wlad y gyllideb amddiffyn fwyaf ar y cyfandir. Mae'n aelod o'r Undeb Affricanaidd, y Gynghrair Arabaidd, OPEC, y Cenhedloedd Unedig, ac Undeb Arabaidd Maghreb.