Alpau Morol

Alpau Morol
Mathalpine subsection Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPiemonte, Liguria, Provence-Alpes-Côte d'Azur Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Baner Yr Eidal Yr Eidal
Uwch y môr3,297 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.23139°N 7.17667°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMaritime Alps and Nice Prealps Edit this on Wikidata
Map
Map yr Alpau Morol

Cadwyn o fynyddoedd yn ne-orllewin yr Alpau yw'r Alpau Morol (Ffrangeg: Alpes maritimes, Eidaleg: Alpi Marittime). Mae prif grib y gadwyn yn dynodi'r ffin rhwng Ffrainc (département Alpes-Maritimes) a'r Eidal (Talaith Cuneo), gyda'r rhan fwyaf o'r gadwyn yn gorwedd yn Ffrainc. Mae bwlch mynydd Col de Tende yn gwahanu'r Alpau Morol a'r Alpau Ligwraidd ac mae Bwlch Maddalena yn ei gorwedd rhyngddynt a'r Alpau Cottaidd. Ceir Parc Cenedlaethol Mercantour yn yr Alpau Morol.

Y gopa uchaf yw Monte Argentera (3297 metr / 10,794 troedfedd).

Llifa sawl afon trwy'r Alpau Morol, yn cynnwys Afon Roya, Afon Var ac Afon Verdon a'u llednentydd ar yr ochr Ffrengig; a'r Stura di Demonte a llednentydd eraill Afon Tanaro ac Afon Po ar yr ochr Eidalaidd.


Alpau Morol

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne