Andrew Hawke | |
---|---|
Ganwyd | 1958 Cernyw |
Alma mater | |
Galwedigaeth | geiriadurwr |
Cysylltir gyda | Geiriadur Prifysgol Cymru |
Golygydd Rheolaethol presennol Geiriadur y Brifysgol ydy Andrew Hawke (ganwyd 1958). Graddiodd o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1981 mewn Cymraeg. Brodor o Gernyw yw Hawke. Ymunodd â staff y geiriadur fel golygydd cynorthwyol yn 1983 a dechreuodd ar y gwaith o drosglwyddo'r gwaith i ffurf electronig yn fuan wedi hynny. Daeth yn olygydd rheolaethol yn 2007.