Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 337, 358 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,227.17 ha |
Cyfesurynnau | 51.6847°N 5.0919°W |
Cod SYG | W04000934 |
Cod OS | SM8602 |
Cod post | SA71 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Samuel Kurtz (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Henry Tufnell (Llafur) |
Pentref a chymuned yn Sir Benfro yw Angle.[1] Mae yn y rhanbarth Saesneg ei hiaith, ac nid ymddengys fod enw Cymraeg ar y pentref. Saif yn ne-orllewin y sir, ar ochr ddeheuol Afon Cleddau, gyferbyn ag Aberdaugleddau ac i'r gorllewin o dref Doc Penfro.
Ceir gorsaf bad achub yma, dwy dafarn, ysgol gynradd, swyddfa'r post ac eglwys, ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd heibio'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]