Anhrefn | |
---|---|
Y Cefndir | |
Tarddiad | Bangor, Gwynedd |
Math o Gerddoriaeth | Roc pync |
Cyfnod perfformio | 1982–1995, 2007 |
Label | Anhrefn, Workers Playtime, Crai |
Perff'au eraill | Mangre |
Cyn-aelodau | |
Rhys Mwyn Sion Sebon Hefin Huws Dewi Gwyn Dafydd Ieuan Dylan Hughes Sion Jones Ryan Kift Gwyn Jones |
Band pync-roc Cymraeg a ffurfiwyd ym 1982 yw Anhrefn. Ym 1987, daeth Anhrefn y band Cymraeg cyntaf eu hiaith i arwyddo i gwmni recordio rhyngwladol (Workers Playtime). Wnaeth y band recordio dwy albwm efo'r cwmni, "Defaid, Skateboards & Wellies" ym 1987 a "Bwrw Cwrw" ym 1989.
Recordiodd y band dair sesiwn i'r gohebydd cerdd enwog, John Peel ac yn eu hanterth roeddent yn perfformio hyd at 300 o gigs y flwyddyn ledled Ewrop. Anhrefn hefyd oedd un o'r bandiau cyntaf i berfformio yn Nwyrain Berlin. Ymddangosodd y band ar raglen gerdd Channel 4, 'The Tube' yn 1987, er i'r cylchgronau Cerddoriaeth Prydeinig anwybyddu llwyddiant Anhrefn ar y cyfan.
Caiff enw'r band (wedi ei gamsillafu fel "Anrhefn") a phortread chwaraewr bâs Rhys Mwyn ei ymddangos ar ochr yr adeilad gwasg Y Lolfa yn Tal-y-bont, Ceredigion. Maent yn ymddangos yn yr awdl 'Gwawr' gan Meirion MacIntyre Huws a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993.
Yn 2007 atgyfodwyd Anhrefn ond y tro hwn heb Rhys Mwyn, gyda Ryan Kift yn canu.