Enghraifft o: | bïom |
---|---|
Math | drylands, tirlun, ecosystem, habitat, tirffurf |
Rhan o | amgylchedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ardal heb lawer o law yw anialwch (diffeithwch). Ceir anialwch iâ a thwndra mewn ardaloedd oer, ac anialwch sych mewn ardaloedd poeth. Ceir anialwch sych mewn nifer o ardaloedd: mewn ardaloedd isdrofannol (e.e. Sahara, Gobi a Kalahari), mewn ardaloedd arfordirol (e.e. Atacama a Namib), mewn basnau mawr yn y mynyddoedd (e.e. y Great Basin), neu y tu hwnt i fynyddoedd. Mewn llawer ohonynt does dim ond tywod, cerrig neu halen.