Math o gyfrwng | group of mythical creatures |
---|---|
Math | creadur chwedlonol |
Ceir stori yr Anifeiliaid Hynaf mewn nifer o wahanol fersiynau yn chwedloniaeth Cymru. Yn chwedl Culhwch ac Olwen y ceir y fersiwm gynharaf. Un o'r Anoethau (tasgau amhosibl) a osodir ar yr arwr Culhwch gan Ysbaddaden Bencawr yn y chwedl yw rhyddhau Mabon fab Modron o'i garchar. Cais Culhwch gymorth Arthur. Anfona'r brenin Bedwyr, Cei, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd ac Eidoel ar neges i geisio gwybodaeth am Fabon gan yr Anifeiliaid Hynaf.
Y cyntaf o'r anifeiliaid a holant yw Mwyalchen Cilgwri. Er hyned ydyw, ni ŵyr y fwyalchen lle mae Mabon, ond mae'n eu gyrru at anifail hŷn, sef Carw Rhedynfre. Ni ŵyr y carw chwaith, ac mae'n eu gyrru ar Dylluan Cwm Cowlyd. Cyfarwydda'r dylluan hwy at Eryr Gwern Abwy. Ni ŵyr yr eryr, ond mae'n eu tywys at Eog Llyn Llyw. Mae'r Eog yn esbonio fel ei fod yn arfer nofio ar hyd yr afon bob nos hyd daw i furiau Caerloyw lle mae'n clywed griddfan ofnadwy yn dod o dŵr y castell. Mae'n cynnig cludo Gwrhyr ac Eidoel ar ei ysgwyddau i weld drostynt eu hunain. Llwyddant i siarad â'r carcharor sydd neb llai na Mabon fab Modron. Wedi galw Arthur a'i fyddin i ymosod ar y castell, mae Cei yn rhwygo'r muriau ac yn rhyddhau Mabon.
Ceir nifer o fersiynau eraill o chwedl yr Anifeiliaid Hynaf mewn gwahanol lawysgrifau. Mewn fersiwn yn llaw Thomas Wiliems o Drefriw, yr un pump anifail yw'r anifeiliaid hynaf, ond y ddylluan yw'r hynaf ohonynt. Mewn rhai llawysgrifau, ychwanegir Llyffant Cors Fochno at y rhestr. Y thema fel rheol yw priodas y dylluan ag aderyn arall.
Yn y Trioedd, enwir Tri Hynaif Byd fel Tylluan Cwm Cowlyd, Eryr Gwern Abwy a Mwyalchen Gelli Gadarn.