Enghraifft o'r canlynol | clefyd heintus, clefyd hysbysadwy, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | clefyd heintus bacterol cychwynnol, milhaint, primary Bacillaceae infectious disease, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Afiechydon heintiol |
Symptomau | Briw, cyfog, dolur rhydd, rectorrhagia, hematochezia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Anthracs yn haint a achosir gan y bacteriwm Bacillus anthracis.[1] Gall ddigwydd mewn pedair ffurf: croen, ysgyfaint, coluddol a chwistrellaid.[2] Mae symptomau'n dechrau rhwng un diwrnod a dau fis wedi dal yr haint. Mae'r ffurf croen yn ymddangos gyda phothell fechan gyda'r croen o'i hamgylch wedi chwyddo sydd yn aml yn troi mewn i wlser ddi-boen gyda chanol du. Mae'r ffurf anadlu yn ymddangos gyda gwres, poen yn y fron a diffyg anadl. Mae'r ffurf coluddol yn ymddangos gyda dolur rhydd a all gynnwys gwaed, poenau abdomenol, cyfog a chwydu. Mae'r ffurf chwistrelliad yn ymddangos gyda thwymyn a chrawniad ar safle chwistrelliad y cyffur.[3]
Lledaenir Anthracs drwy gyffyrddiad a sborau'r bacteria, sydd yn aml o gynnyrch anifeiliad heintus. Mae'r cyffyrddiad yn digwydd drwy anadlu, bwyta, neu drwy ardal o groen toredig. Nid yw'n arferol yn ymledu'n uniongyrchol rhwng pobl.[4] Mae ffactorau risg yn cynnwys pobl sy'n gweithio gydag anifeiliaid neu gynnyrch anifeiliaid, teithwyr, gweithwyr post, a gweithwyr milwrol. Cadarnheir y diagnosis drwy ddarganfod gwrthgyrff neu'r tocsin yn y gwaed neu drwy feithrin sampl o'r safle heintus.[5]
Argymhellir brechiad Anthracs i bobl sydd mewn risg uchel.[6] Mae imiwneiddio anifeiliaid rhag Anthracs yn cael ei argymell mewn ardaloedd sydd wedi dioddef heintiau blaenorol. Mae dau fis o wrthfiotig, megis doxycycline neu ciprofloxacin, yn dilyn datguddiad hefyd yn gallu atal haint.[7] Os yw haint yn digwydd bydd y drinaeth gyda gwrthfiotigau a gwrthwenwyn.[8] Bydd y math a'r nifer o wrthfiotigau a ddefnyddir yn dibynnu ar fath yr heintiad. Argymhellir gwrthwenwyn ar gyfer y rhai hynny sydd a haint wedi ymledu.
Gwelir Anthracs yn fwyaf cyffredin mewn pobl yn Affrica a chanol a de Asia.[9] Mae'n digwydd hefyd yn weddol reolaidd yn Ne Ewrop, ond mae'n angyffredin yng Ngogledd Ewrop a Gogledd America.[10] Yn fyd-eang, mae o leiaf 2,000 o achosion yn digwydd, gyda tua dau achos y flwyddyn yn Yr Unol Daleithiau.[11][12] Llid y croen yw dros 95% o'r achosion. Heb driniaeth, mae perygl marwolaeth o anthracs y croen yn 24&. Ar gyfer llid coluddol, ma'r perygl marwolaeth yn 25 i 75%, tra fod anthracs anadlol yn lladd tua 50 i 80%, hyd yn oed gyda thriniaeth. Hyd yr 20g, roedd heintiau anthracs yn lladd cannoedd o filoedd o bobl ac anifeiliaid bob blwyddyn.[13] Mae Anthracs wedi ei ddatblygu'n arf milwrol gan nifer o wledydd.[14] Mewn llysysorion bydd haint yn digwydd pan fyddant yn bwyta neu anadlu'r sborau wrth bori. Gall anifeiliaid cigysol gael eu heintio drwy fwyta anifieiliad heintus.
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)