Antony Hewish | |
---|---|
Ganwyd | Antony Hewish 11 Mai 1924 Fowey |
Bu farw | 13 Medi 2021 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | seryddwr, astroffisegydd, ffisegydd, academydd |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Gwobr Ffiseg Nobel, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Albert A. Michelson, Gwobr Holweck, Medal Hughes, Medal Eddington, Medal Karl Schwarzschild |
Astroffisegwr o Loegr oedd Antony Hewish (11 Mai 1924 – 13 Medi 2021) a enillodd Wobr Ffiseg Nobel ym 1974 am ddarganfod pylser, sef sêr radio curiadol.
Ganed yn Fowey, Cernyw, a mynychodd Goleg y Brenin yn Taunton. Aeth i Goleg Gonville a Caius, Caergrawnt, ym 1942 i astudio ffiseg, ac o 1943 i 1946 fe'i galwyd i fwrw ei wasanaeth milwrol yn gweithio i'r Sefydliad Awyrennau Brenhinol yn Farnborough a'r Sefydliad Ymchwil Telegyfathrebu yn Malvern. Dychwelodd i Brifysgol Caergrawnt ym 1946, ac wedi iddo dderbyn ei radd ym 1948 ymunodd â thîm ymchwil Martin Ryle yn Labordy Cavendish. Enillodd Hewish ei ddoethuriaeth ym 1952 a fe'i penodwyd yn Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Gonville a Caius, ac ym 1961 fe'i trosglwyddwyd i Goleg Churchill i gymryd swydd Cyfarwyddwr Astudiaethau Ffiseg. Cafodd ei brofiad cyntaf o radio-seryddiaeth wrth ei waith yn datblygu dyfeisiau gwrthfesurau radar awyrennol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]
Ar gychwyn ei yrfa, ymchwiliai i ffyrdd o fesur gronynnau wedi'u gwefru. Hewish oedd y gwyddonydd cyntaf i ddefnyddio fflachiadau sêr radio i fesur uchder a dimensiynau'r cymylau plasma yn yr ïonosffer, a fe ddefnyddiodd dechneg debyg i fesur gwynt yr haul.[1] Wrth ei waith yn Arsyllfa Radio-Seryddiaeth Mullard (MRAO) o 1965 i 1967, datblygodd fath newydd o delesgop radio i astudio fflachiadau galaethau radio. Sylwodd un o'i fyfyrwyr ôl-raddedig, Jocelyn Bell, ar signalau rhyfedd drwy'r telesgop, a chydweithiodd y ddau i geisio canfod ffynhonnell y curiadau hyn. Ym 1968 cyhoeddodd Hewish ei ymchwil ragarweiniol, gan ysgogi dadl ym myd seryddiaeth dros ffynonellau'r "pylser". O'r diwedd, cytunwyd bod y signalau yn tarddu o sêr niwtron yn troi'n gyflym iawn.
Darlithiodd Hewish ar bwnc ffiseg yng Nghaergrawnt hyd at ei benodi'n ddarllenydd ym 1969. Fe'i dyrchafwyd yn athro radio-seryddiaeth yn Labordy Cavendish ym 1971. Dyfarnwyd Gwobr Ffiseg Nobel i Hewish a Syr Martin Ryle ym 1974 "am eu ymchwil arloesol mewn astroffiseg radio: Ryle am ei arsylwadau a'i ddyfeisiau, yn enwedig y dechneg synthesis agorfa, a Hewish am ei ran benderfynol wrth ddarganfod pylser".[2] Hwn oedd y tro cyntaf i'r wobr gael ei roi am seryddiaeth arsylwadol.[3] Cafodd y wobr ei beirniadu gan rai, gan gynnwys y seryddwr Fred Hoyle, am gydnabod Hewish yn hytrach na Jocelyn Bell.[4] Yn sgil salwch Ryle ym 1977 fe gymerai Hewish awenau'r adran radio-seryddiaeth yng Nghaergrawnt. Gwasanaethodd hefyd yn bennaeth ar MRAO o 1982 i 1988, ac ymddeolodd o'i swydd athro ym 1989. Bu farw yn 2021 yn 97 oed.[1]