Delwedd:Apollo of the Belvedere.jpg, Roman Statue of Apollo.jpg, Artus Quellinus, Apollo en Python- Apollon et Python, KBS-FRB.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | duw Groeg, duwdod heulol, Olympian god, duwdod Rhufeinig |
---|---|
Rhan o | Deuddeg Olympiad, Dii Consentes |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Duw Groegaidd a Rhufeinig oedd Apollo neu Apolon[1] (Groeg Ἀπόλλων, Lladin Apollo). Ym mytholeg Roeg roedd yn dduw goleuni a'r gwanwyn, proffwydoliaeth a'r celfyddydau, yn enwedig barddoniaeth a cherddoriaeth. Roedd Oracl Apollo yn Delphi yn cael ei ystyried yn oracl pwysicaf yr hen fyd. Roedd yn un o ddeuddeg duw pwysicaf y pantheon Groegaidd.
Roedd yn fab i Zeus a Leto, ac yn efaill i'r dduwies Artemis. Dywedir iddo gael ei eni ar ynys Delos. Mae tarddiad yr enw'n ansicr. Mae'r ffurf Dorig Απέλλων yn hŷn ac yn tarddu o ffurf cynharach eto, sef: Απέλjων. Yn sicr, gellir gweld cyswllt rhwng yr enw â'r mis Dorig Απέλλαιος a gyda'r hen ŵyl Apellai (neu απελλαι).[2]
Yn ôl gwahanol ffynonellau, cariadon Apollo a'i blant gyda hwy oedd: