Math o gyfrwng | taith ofod gyda phobol, glaniad ar y Lleuad, lloeren |
---|---|
Màs | 49,734.6 cilogram, 4,931.9 cilogram |
Rhan o | Rhaglen Apollo |
Rhagflaenwyd gan | Apollo 10 |
Olynwyd gan | Apollo 12 |
Gweithredwr | NASA |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Hyd | 703,115 eiliad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Taith ofod Americanaidd oedd Apollo 11 a gludodd y ddau ddyn cyntaf i wyneb y lleuad a hynny yng Ngorffennaf 1969 fel rhan o Rhaglen Apollo NASA [1]. Hon oedd pumed taith ofod y cynllun a alwyd yn Rhaglen Apollo taith i'r lleuad neu o amgylch y lleuad. Lansiwyd y roced Saturn V ar 16 Gorffennaf 1969 gyda'r tri gofodwr canlynol arni: y prif ofodwr Neil Armstrong, peilot y Command Module sef Michael Collins a pheilot y goden lanio sef Buzz Aldrin (Edwin Eugene 'Buzz' Aldrin, Jr). Ar 20 Gorffennaf cerddodd Armstrong ac Aldrin ar wyneb y lloer, y dynion cyntaf i wneud hynny, tra fod Collins yn cylchdroi yn y brif goden.[2] Wnaeth Armstrong ac Aldrin gerdded ar y lleuad am ryw ddwy awr, yn casglu samplau o gerrig a llwch. Dychwelodd y criw i'r Ddaear ar 24 Gorffennaf 1969.
Dywedodd John F. Kennedy, pan oedd yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, ar Fai 25 1961, "I believe that this nation should commit itself to achieving the goal, before this decade is out, of landing a man on the Moon and returning him safely to the Earth."[3] Datblygwyd y rhaglen Apollo yn sgil y datganiad hwn.