Math | test, research work |
---|---|
Rhan o | experimentation |
Yn cynnwys | protocol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Astudiaeth wyddonol, a chymhariaeth deg rhwng dwy set o ffeithiau, dwy ffactor neu ddau gyflwr yw arbrawf, sy'n ddull o weithredu a reolir yn ofalus er mwyn cadarnhau, gwrthbrofi neu ddilysu rhyw ddamcaniaeth.
Mewn arbrawf, cofnodir un cyflwr (ee pwysau darn o bapur), ac yna newidir un peth (a elwir yn "newidyn annibynnol") a chofnodir yr ail ddigwyddiad (ee pwysau'r lludw wedi i'r papur gael ei losgi), gan sylwi'n ofalus ar effaith y newid hwn rhwng y newidyn dibynnol (pwysau'r papur) a'r newidyn annibynnol (pwysau'r lludw). Pwrpas yr arbrawf, felly yw canfod neu gadarnhau'r berthynas achos-effaith rhwng y newidynnau. Mewn geiriau eraill, mewn arbrawf, teflir golau newydd ar achos-ac-effaith drwy arddangos pa ganlyniad (yr effaith) all ddigwydd pan newidir un ffactor.
Cysylltir yr arbrawf gyda maes eang gwyddoniaeth, ond mae'n digwydd yn aml yn y byd real, e.e. gall cogydd gynnal arbrawf i weld am ba hyd sydd angen coginio darn o gaws, cyn iddo grimpio, neu fe all ffermwr edrych ar effaith tyfu hadau newydd, gwahanol ar ddarn o'i dir, a'u cymharu gyda maint ac ansawdd y planhigion o'r hadau a ddefnyddiodd y flwyddyn cynt. Mae arbrofion yn amrywio'n fawr o ran nod a maint, ond maent bob amser yn dibynnu ar weithdrefn (neu 'ddull o weithredu') ailadroddus a dadansoddiad rhesymegol o'r canlyniadau. I fabi, mae arbrofi'n rhan o dyfu fyny, a dim ond drwy arbrofi y gall ddeall rhai pethau, er enghraifft fod fflam y gannwyll yn achosi poen, o'i gyffwrdd! Mae arbrofi gyda disgyrchiant (plat yn disgyn) yn rhan anhepgor o'i fagwraeth. Ar yr un gwynt, mae profion neu weithagareddau ymarferol yn help i fyfyrwyr ddeall a chofio ffeithiau. Gall rhai arbrofion gymryd blynyddoedd i'w gwneud, fel y wybodaeth newydd a ddaw drwy astudio gronynnau isatomig yn CERN.