Enghraifft o'r canlynol | math o lywodraeth, math o wladwriaeth, dosbarth cymdeithasol |
---|---|
Math | oligarchiaeth, system wleidyddol |
Rhan o | pum math o lywodraeth Plato |
Enw brodorol | ἀριστοκρατίᾱ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffurf o lywodraeth sy'n rhoi grym i'r bendefigaeth, dosbarth a honnir eu bod yn oreuon cymdeithas, yw aristocratiaeth.[1] Daw'r term yn y bôn o'r geiriau Groeg ἄριστος (aristos), sef "gorau" neu "ardderchog", a κράτος (kratos), sef "rheolaeth" neu "lywodraeth".
Yn Y Wladwriaeth, dadleuai'r hen Roegwr Platon taw'r dynion doeth ydy'r rhai a ddylent llywodraethu cymdeithas. Elît o ddinasyddion diwylliedig, hyddysg a rhesymol oedd y llywodraeth orau yn ôl Aristoteles. Canolbwyntiodd meddylwyr yr Oesoedd Canol ar faterion crefyddol yn bennaf, ac iddynt hwy y llywodraeth orau oedd arweinyddiaeth o Gristnogion duwiol, os nad seintiau. Ysgrifennodd Thomas Jefferson am "aristocratiaeth naturiol" sy'n dyrchafu unigolion rhinweddol a doniog i frig y gymdeithas.[2]