Aristoteles | |
---|---|
Ganwyd | 384 CC Stageira |
Bu farw | o clefyd coluddol Chalcis |
Man preswyl | Athen, Athen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | biolegydd, cosmolegydd, rhesymegwr, swolegydd, beirniad llenyddol, mathemategydd, moesegydd, gwybodeg, athronydd gwleidyddol, polymath, athroniaeth iaith, llenor, athronydd, seryddwr, daearyddwr, athro, tiwtor, ontolegydd, ffisegydd, diwinydd, seicolegydd |
Adnabyddus am | Politics, Moeseg Nicomachaidd, Metaphysics, Physics, Organon, Barddoneg, Constitution of the Athenians, Eudaimonia, Meteorology |
Prif ddylanwad | Platon, Socrates, Heraclitos, Parmenides, Zeno o Elea, Democritus, Anaximandros, Epicurus, Hippocrates, Empedocles |
Mudiad | ysgol beripatetig |
Tad | Nicomachus |
Priod | Pythias |
Partner | Herpyllis |
Plant | Nicomachus, Pythias |
Athronydd Groeg yr Henfyd oedd Aristoteles[1] (hefyd Aristotlys[1] neu Aristotlus, Groeg: Ἀριστοτέλης). Fe'i ganwyd yn 384 CC yn Stagira, Chalcidici; ac fe fu farw ar 7 Mawrth 322 CC yn Chalcis, Ewboia yng Ngwlad Groeg.
Roedd yn fyfyriwr i Platon ac yn athro i Alecsander Fawr. Ysgrifennodd ynglŷn ag amryw feysydd, gan gynnwys ffiseg, barddoniaeth, bioleg, rhesymeg, rhethreg, gwleidyddiaeth, llywodraeth, a moeseg. Ynghyd â Socrates a Platon, roedd yn un o athronwyr mwyaf dylanwadol Groeg yr Henfyd. Trawsnewidiasant athroniaeth Gynsocrataidd yn sylfeini'r Athroniaeth Orllewinol gyfarwydd. Dywed rhai y bu i Platon ac Aristoteles ffurfio dwy ysgol bwysicaf athroniaeth hynafol; tra bod eraill yn gweld dysgeidiaeth Aristoteles yn ddatblygiad a diriaethiad o weledigaeth Platon.