Math o gyfrwng | swydd |
---|---|
Math | arlywydd, pennaeth y wladwriaeth |
Deiliad presennol | Emmanuel Macron |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Hyd tymor | 5 blwyddyn |
Aelod o'r canlynol | Conseil de défense et de sécurité nationale |
Enw brodorol | Président de la République française |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Gwefan | https://www.elysee.fr/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arlywydd Gweriniaeth Ffrainc (Ffrangeg: Président de la République française), a gyfeirir ato ar lafar fel "Arlywydd Ffrainc", yw pennaeth gwladwriaeth etholedig Ffrainc.
Cafodd pedwar allan o bum o weriniaethau Ffrainc arlywyddion yn benaethiaid gwladwriaethol, a olyga mai arlywyddiaeth Ffrainc yw'r hynaf yn Ewrop sy'n dal i fodoli mewn rhyw fodd. Ymhob un o gyfansoddiadau'r gweriniaethau hyn, amrywia pŵerau, swyddogaethau a dyletswyddau'r arlywydd, ynghyd a'i perthynas gyda'r llywodraethau Ffrengig.
Am fanylion ynglŷn â system lywodraethol Ffrainc, gweler Llywodraeth Ffrainc.
Arlywydd y Weriniaeth ar hyn o bryd yw Emmanuel Macron, ers 14 Mai 2017.