Asanas eistedd

Asanas eistedd
Hanumanasana
Mathasana Edit this on Wikidata

Osgo neu asana tra'n eistedd yw asana eistedd, sy'n cael ei ddefnyddio yn aml yn India a mannau eraill i fyfyrio ac yn y Gorllewin i gadw'n heini ac fel rhan o symudiadau ioga. Mae asanas eistedd ioga'n cynnwys ystumiau lle cedwir y coesau'n syth neu wedi'u plethu, eu plygu ymlaen neu eu troelli. Mae'r mathau hyn o ystumiau yn briodol ar gyfer ymarferwyr ioga a myfyrdod ar bob lefel gan ddefnyddio propiau yn ôl yr angen i hyrwyddo aliniad diogel. Mae'r mwyafrif o ystumiau eistedd ioga'n addas ar gyfer myfyrwyr ioga sy'n ddechreuwyr.

Mae ystumiau eistedd yn ddelfrydol ar gyfer gwella hyblygrwydd trwy ymestyn y coesau (llinyn y gar, quads a'r ffer), y cefn, a'r cyhyrau o amgylch y clun. Gall eistedd ar y llawr ddarparu sefydlogrwydd, sy'n hwyluso agor y coesau a'r breichiau, ond nid yw'n gyffyrddus i bawb. Mae codi'r cluniau yn aml yn helpu'r asgwrn cefn i ddod i aliniad mwy cynaliadwy.

Mewn ioga clasurol ceir 5 grwp neu fath o asana eistedd:


Asanas eistedd

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne