Bando (band)

Bando
Math o gyfrwngband Edit this on Wikidata

Band pop Cymraeg o'r 1980au oedd Bando gyda Caryl Parry Jones yn brif leisydd a phrif gyfansoddwr caneuon y grŵp. Roedd y band yn nodedig am ei ganeuon pop slic a fideos trawiadol. Un o ganeuon enwocaf y band oedd Chwarae'n troi'n chwerw.

Ffurfiwyd y band yng Nghaerdydd yn 1979 gan griw o gerddorion oedd wedi bod yn weithgar mewn bandiau Cymraeg ers rhai blynyddoedd. Roedd Myfyr Isaac yn cynhyrchu recordiau'r band yn ogystal â chwarae'r gitâr.[1]

Cynhyrchwyd ffilm ddogfen Shampŵ am y band gan Endaf Emlyn, a fe enillodd wobr Ysbryd yr Ŵyl yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd, 1983.[2]

  1.  CARYL PARRY JONES - Bywgraffiad. Sain. Adalwyd ar 2 Mawrth 2017.
  2. (Saesneg) Emlyn, Endaf (1944-). BFI. Adalwyd ar 2 Mawrth 2017.

Bando (band)

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne